成人快手

Arian i ysgolion a cholegau ddarparu mygydau

  • Cyhoeddwyd
schoolchildren wearing masksFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw gwisgo mygydau ddim yn orfodol yn ysgolion Cymru

Bydd ysgolion uwchradd a cholegau yn derbyn 拢2.3m gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu mygydau i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr.

Mae gorchuddio'r wyneb yn cael ei argymell mewn ysgolion uwchradd pan nad "yw'n bosib" cadw pellter cymdeithasol ond nid yw mygydau yn orfodol yng Nghymru fel mewn mannau eraill yn y DU.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei bod yn bwysig bod pobl yn teimlo'n hyderus eu bod yn cael eu hamddiffyn wrth iddynt ddychwelyd i ysgol neu goleg.

Ond yn 么l Plaid Cymru dyw'r arian ddim yn ddigon.

Yng Nghymru ysgolion, colegau a chynghorau lleol sy'n penderfynu pryd y dylid gorchuddio'r wyneb wedi i'r gweinidog iechyd Vaughan Gething ddweud nad yw'r un cyngor yn berthnasol i bawb.

Mae undebau athrawon wedi galw ar Gymru i ddilyn Yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae'n orfodol i wisgo mygydau mewn coridorau ac ardaloedd cymunedol ysgolion uwchradd.

Maent hefyd yn orfodol mewn rhannau o Loegr sy'n wynebu cyfnodau clo estynedig oherwydd cynnydd mewn achosion lleol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai disgyblion dros 12 oed wisgo mygydau pan yn cymysgu ag oedolion

Bydd 拢1.8m o'r arian yn cael ei roi i ysgolion a 拢469,000 i ddarparwyr addysg bellach.

Dywedodd Ms Williams: "Mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc a phawb sy'n yr ysgol yn teimlo'n hyderus bod mesurau yn cael eu cyflwyno i'w diogelu wrth iddyn nhw ddychwelyd i ysgolion a cholegau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

A fydd 拢2.3m yn ddigon i ysgolion a cholegau yng Nghymru ddarparu mygydau?

Yn y cyfamser, mae staff mewn pum ysgol wahanol yn ne Cymru wedi cael prawf coronafeirws positif ers ailagor wythnos ddiwethaf sef ym Mhen-y-bont, Maesteg, Cwmbr芒n, Caerfyrddin a Bargod yn Sir Caerffili.

Ym Margod mae dosbarth o 21 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd St Gwladys wedi cael cais i hunan-ynysu am bythefnos ar 么l i aelod o staff gael prawf positif am coronafeirws - byddant yn aros adref am 14 diwrnod ond bydd gweddill yr ysgol yn parhau ar agor.

'拢2.3m ddim yn ddigon'

Dywed llefarydd addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian, nad yw 拢2.3m yn ddigon i ddarparu mygydau i bob ysgol uwchradd a choleg yng Nghymru.

"Mae ysgolion," meddai, "yn gorfod defnyddio eu cyllidebau eu hunain i brynu pob math o bethau cysylltiedig 芒 diogelwch yn ystod argyfwng coronafeirws - gan gynnwys nwyddau glendid, arwyddion a thalu am waith adeiladu.

"Dyw swm o 拢2.3m ar gyfer gorchuddion wyneb yn ddim pan fydd wedi'i rannu rhwng pob ysgol uwchradd a choleg," ychwanegodd Ms Gwenllian.