成人快手

2 Sisters: Cyfyngiadau'n bosib wedi 175 achos Covid-19

  • Cyhoeddwyd
2 SistersFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cyfyngiadau lleol yn cael eu hystyried ym M么n

Mae 175 o achosion o coronafeirws bellach wedi eu cofnodi yn ffatri brosesu bwyd 2 Sisters yn Llangefni ar Ynys M么n.

Daeth cadarnhad yr wythnos diwethaf bod clwstwr o achosion yn deillio o'r ffatri.

Prynhawn ddydd Llun fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau bod y nifer wedi cynyddu i 175, a bod pob un o'r rheiny yn weithwyr yn y ffatri.

Bellach mae pob aelod o staff yn hunan-ynysu ac mae'r ffatri ar gau wrth i staff barhau i gael profion.

Mae'r prif weinidog wedi dweud y bydd yn ystyried cyflwyno cyfyngiadau arbennig i'r ardal os oes angen.

Wrth i nifer yr achosion barhau i gynyddu mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r prif weinidog wedi dweud efallai y bydd yn rhaid gorfodi cyfyngiadau clo lleol er mwyn rheoli'r haint.

Wrth gael ei gyfweld ar Radio Wales brynhawn Llun dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod cyfyngiadau clo lleol yn rhywbeth i'w ystyried.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod mesurau llym eisoes wedi eu cyflwyno er mwyn rheoli'r haint

"Rhaid i ni weld sut mae'r haint yn datblygu," meddai.

"Ry'n ni'n parhau i ddisgwyl rhai canlyniadau profion ac mae'n debyg y bydd nifer yr achosion yn codi ond mae mesurau priodol wedi'u cyflwyno i ddelio 芒'r haint.

"Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, fe allwn ddisgwyl ambell glwstwr fel hyn o achosion. Maent yn achosi pryder a rhaid i ni ymateb yn gyflym," ychwanegodd.

Wrth siarad ddydd Llun dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai yn gorfodi cyfyngiadau clo lleol petai rhaid, ond y byddai unrhyw gamau yn seiliedig ar dystiolaeth.

Dywedodd ei fod yn cyfarfod 芒 swyddogion iechyd lleol ar yr ynys brynhawn Llun er mwyn adolygu'r sefyllfa, a thrafod pa fesurau eraill sydd angen eu cyflwyno.

Wrth ateb cwestiwn am gyfyngiadau lleol dywedodd: "Dy'n ni ddim am osod cyfyngiadau na fyddai o fudd i iechyd y cyhoedd."

Cyflogau yn parhau

Mae undeb Unite hefyd wedi croesawu'r newyddion y bydd pob un o'r 560 o staff yn cael eu talu'n llawn yn ystod y cyfnod o hunan-ynysu.

Dywedodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unite: "Mae'r cwmni yn cydnabod na ddylai'r gweithlu ddioddef unrhyw galedi ariannol yn ystod y cyfnod o hunan-ynysu.

"Mae undeb Unite wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda chwmni 2 Sisters i sicrhau bod y gweithle yn ddiogel.

"Rhaid diogelu pob gweithiwr a'r gymuned yn ehangach."

Galw am archwiliad annibynnol

Wrth groesawu'r newyddion fod y gweithwyr yn mynd i gael eu talu yn ystod y cyfnod hunan-ynysu, galwodd aelod seneddol Ceidwadol yr ynys am archwiliad annibynnol o'r safle cyn i'r ffatri ailagor.

Ffynhonnell y llun, Virginia Crosbie
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys M么n, Virginia Crosbie

Mewn datganiad nos Lun, dywedodd: "Er bod cyfnod cau cychwynnol y ffatri am bythefnos, mae'n hanfodol i ddiogelwch y gweithlu a'u teuluoedd, ynghyd 芒 diogelwch cymunedau ar draws Ynys M么n, fod y safle yn parhau ar gau tan y bydd archwiliad iechyd a diogelwch annibynnol yn cael ei gynnal ac unrhyw awgrymiadau am fesurau diogelwch yn cael eu dilyn.

Dywedodd y byddai angen i sawl corff fod yn rhan o'r archwilio, a'i fod yn "hanfodol fod yr adolygiad a'i ddarganfyddiadau yn gwbl dryloyw".

"Rhaid i 2 Sisters gyfathrebu gyda'r gweithlu a phobl ar draws ein hynys i sicrhau fod pob mesur posib yn cael ei ddilyn i leihau'r risg o glwstwr arall o achosion.

"Rhaid i ni gofio fod 2 Sisters yn un o'r cyflogwyr mwyaf ar yr ynys ac mae'r cwmni wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'n heconomi leol.

"Mae ffatr茂oedd tebyg ar draws Ewrop a'r byd wedi profi achosion tebyg ac ni ddylen ni roi bai ar y gweithwyr am yr hyn sydd wedi digwydd neu geisio dial yn erbyn y ffatri."