成人快手

Pryder y gall Undeb Rygbi Cymru wneud colled o 拢50m heb gemau

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru yn rhagweld y byddai'r undeb yn gwneud colledion o 拢50m os na fydd modd cynnal gemau'r hydref a Chwe Gwlad 2021.

Mae'r RFU, sy'n gyfrifol am rygbi yn Lloegr, yn amcan y byddan nhw'n gwneud colled o 拢107m os na fydd gemau'r hydref yn cael eu cynnal.

Dywedodd Martyn Phillips o Undeb Rygbi Cymru y byddan nhw'n ystyried gofyn am gymorth ariannol gan y llywodraeth os na fydd modd cynnal gemau rygbi tan y flwyddyn nesaf.

"Os na fyddan ni'n chwarae gemau yn yr hydref neu'r Chwe Gwlad, mae'n bosib y byddan ni'n edrych ar golled o 拢50m mewn refeniw, neu rywbeth o'r maint yna," meddai Phillips.

"Mae hi wastad yn anodd rhagweld gwerth gemau unigol ond pan 'da chi'n gweld yr adroddiad blynyddol fe welwch y ddibyniaeth ar gemau rhyngwladol.

"'Da ni o bosib yn llai dibynnol ar gemau rhyngwladol na'r RFU ond mae'n parhau i gyfrannu at y mwyafrif o'n busnes."

Hanner incwm yn dod o gemau

Incwm gr诺p URC yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 oedd 拢90.5m gyda hanner y ffigwr yna, 拢44.5m, yn deillio o gemau Stadiwm Principality.

Mae Cymru i fod i gynnal saith g锚m brawf yng Nghaerdydd rhwng Hydref 2020 a Mawrth 2021.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Martyn Williams yn gyn- gapten t卯m rygbi Cymru

Ni chafodd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ei chwblhau yn gynharach eleni oherwydd y pandemig ac mae rygbi, fel nifer o gampau eraill, wedi ei atal ar hyn o bryd.

Mae'n edrych mai dim ond mater o amser fydd hi nes y bydd taith haf Cymru, yn cynnwys gemau prawf yn erbyn Seland Newydd a Japan, yn cael ei gohirio.

Mae corff llywodraethu rygbi'n rhyngwladol, World Rugby, yn ystyried nifer o fesurau mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Un o'r rhai hynny fyddai cynnal gemau'r hydref y tu 么l i ddrysau caeedig.

'Rhyfedd iawn heb dorf'

Byddai chwarae gemau rhyngwladol tu 么l i ddrysau caeedig yn "swreal" medd rheolwr t卯m Cymru, Martyn Williams.

"Byddai chwarae g锚m ryngwladol heb dorf yn rhyfedd iawn," meddai.

"Fe wnes i wylio g锚m Cynghrair y Pencampwyr cyn y cyfyngiadau, PSG yn erbyn Dortmund, ac roedd hi'n rhyfedd iawn gwylio ar y teledu gyda dim torf yno.

"Ond os mai dyna beth fydd y llywodraeth yn mynnu er mwyn cynnal diogelwch, yna bydd yn rhaid i bawb weithio gyda hynny."