成人快手

Coronafeirws: Galw am warchod lleiafrifoedd ethnig

  • Cyhoeddwyd
Meddygon y Gwasanaeth IechydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae canran uchel o feddygon y gwasanaeth iechyd o gefndir ethnig lleiafrifol

Mae rhai gweithwyr o gefndir lleiafrif ethnig sydd ar y rheng flaen "yn si诺r o farw" oni bai bod camau'n cael eu cymryd ar frys yng Nghymru.

Dyma'r rhybudd gan Gymdeithas Prydain ar gyfer Meddygon o Dras Indiaidd, y British Association of Physicians of Indian Origin, BAPIO.

Maen nhw ymhlith rhai o'r cyrff sy'n galw ar weinidogion Cymru i ddilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad brys o nifer y bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig - BAME - sy'n dioddef yn sgil coronafeirws.

Mae Downing Street eisoes wedi comisiynu ymchwiliad am y mater ac yn 么l Llywodraeth Cymru bydd yr adolygiad gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn helpu Cymru i gynllunio ac ymateb i'r feirws.

Canran uchel o gleifion coronafeirws

Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl o leiafrifoedd ethnig mewn mwy o berygl o fod yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Athro Keshav Singhal yn ymgynghorydd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Yn 么l y ganolfan sy'n ymchwilio i ofal dwys, yr Intensive Care National Audit and Research Centre, mae 34% o rhyw 4,800 claf sy'n ddifrifol wael ar 么l cael eu heintio 芒'r coronafeirws o dras ethnig lleiafrifol.

Does dim ffigyrau pendant yn cael eu cofnodi ar gyfer Cymru.

Yn 么l cadeirydd BAPIO Cymru, yr Athro Keshav Singhal, mae angen darganfod pam fod y cymunedau yma'n cael eu heffeithio'n fwy difrifol.

"Rydyn ni'n gwybod bod rhai mewn categori risg uchel iawn," meddai.

"Mae gwryw BAME, canol oed 芒 diabetes, gorbwysedd, clefyd y galon, mewn risg hollol uchel. Mae eu rhoi nhw ar y rheng flaen bron yn eu condemnio nhw i farwolaeth."

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd tua 4% o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod nhw'n ddu, Asiaidd neu o dreftadaeth gymysg.

Mae Cyngor Hil Cymru wedi ysgrifennu at brif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford gan ofyn iddyn nhw edrych ar nifer o bwyntiau penodol.

Galw i weithredu ar frys

Mae Menai Owen-Jones yn un o ymddiriedolwyr y cyngor ac wedi arwyddo'r llythyr.

"Rydyn ni wedi ysgrifennu i fynegi pryder mawr am effaith anghymesur coronafeirws ar leiafrifoedd ethnig ar draws y Deyrnas Unedig," meddai.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dim ond 4% o boblogaeth Cymru sydd o gefndir ethnig lleiafrifol yn 么l cyfrifiad 2011

"'Dan ni'n gwybod bod y 10 doctor cyntaf fu farw o'r feirws o gefndir BAME felly 'dan ni wedi sgrifennu at y llywodraeth yn gofyn am fesurau - 'dan ni angen ymchwiliad ar frys.

"'Dan ni'n gwybod bod 'na ddata ar draws y Deyrnas Unedig ond 'dan ni angen data ar gyfer Cymru yn arbennig," ychwanegodd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cyhoeddi y bydd hefyd yn dechrau olrhain data yn 么l cefndir ethnig er mwyn amddiffyn pobl sydd mewn peryg.

Mae Cyngor Hil Cymru am weld yr un peth yn digwydd yma.

Pryder am ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Ers i'r pandemig byd-eang daro, mae'r Groes Goch a mudiad Doctoriaid y Byd wedi cyfieithu'r cyngor diweddaraf am Covid-19 i 45 o ieithoedd.

Mae Theresa Mgadzah Jones yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar ran y Groes Goch yn y de ddwyrain.

Mae'n dweud eu bod wedi cyflwyno newidiadau i'w gofal a'u gwersi Saesneg, er mwyn eu gwarchod gymaint 芒 phosib rhag Covid-19.

"Dwi'n gweithio yng Nghasnewydd. Mae gen i 76 o fenywod sy'n dod yna a nawr ma gen i gr诺p Whatsapp i 'neud yn si诺r bod y menywod yn iawn.

"Yng Nghaerdydd rydyn ni wedi bod yn dosbarthu bwyd,聽nappies聽a llaeth babanod," ychwanegodd.

"Mae'r polisi lockdown yn medru ynysu pobl."

Casglu data

Mae'r diffyg data sy'n cael ei gofnodi yn poeni nifer. Yn 么l Swyddfa Ystadegau yr ONS dydy cefndir ethnig unigolyn ddim yn cael ei gofnodi ar dystysgrifau marwolaeth. Ond mae 'na gynlluniau i gysylltu'r data gan ddefnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad.

Mae'r BMA wedi dweud ei bod hi'n hanfodol casglu gwybodaeth benodol er mwyn gwarchod pobl o leiafrifoedd ethnig.

"Mae'n rhaid gweithredu ar frys yng Nghymru," medd Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor y BMA yng Nghymru.

"Mae'r meddygon a'r gweithwyr gofal iechyd ymroddedig yma yn rhoi eu hunain mewn perygl er mwyn edrych ar 么l ein hanwyliaid ni, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth posib i asesu'r risg, er mwyn gallu darparu'r amddiffyniad gorau iddyn nhw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Mae'n bwysig ein bod ni'n deall pam fod nifer anghymharus o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn y DU wedi dioddef yn ddifrifol o Covid-19.

"Bydd adolygiad Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Gwasanaeth Iechyd Lloegr yn archwilio r么l cyflyrau meddygol blaenorol ac yn gymorth i'n cynllunio a'n hymateb i'r feirws yng Nghymru a rhannau eraill y DU."