成人快手

Pob ysgol yng Nghymru i gau o ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau wedi i wersi ddod i ben ddydd Gwener mewn ymateb i'r achosion coronafeirws.

Cafodd y cam ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru brynhawn Mercher.

Dywedodd y llywodraeth y byddai arholiadau TGAU a Lefel A yr haf hwn hefyd yn cael eu canslo.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau erbyn dydd Gwener ar yr hwyraf, gan ddod 芒'r gwyliau Pasg ymlaen.

Ychwanegodd y bydd gan yr ysgolion "ddiben newydd" wedi'r gwyliau Pasg "i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus, gan gynnwys gweithwyr allweddol sy'n rhan o'r ymateb uniongyrchol i'r sefyllfa coronafeirws."

Mae'r cynlluniau hynny i gefnogi gweithwyr iechyd a gofal yn dal yn cael eu datblygu.

Gofal plant dal ar agor

"Y meysydd allweddol yr ydym yn ystyried eu cefnogi a'u diogelu yw'r rhai sy'n fregus, sy'n cefnogi gweithwyr sy'n ymwneud 芒'r ymdrech genedlaethol i ymateb i'r sefyllfa yn yr ystyr ehangaf, a pharhad dysgu," meddai Ms Williams.

"Rydym yn edrych yn fanwl ar sut y gallwn gefnogi a diogelu pawb sy'n cael prydau ysgol am ddim a phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol."

Ychwanegodd bod disgwyl i leoliadau gofal plant aros ar agor nes bod Llywodraeth Cymru'n cael cyngor pendant gan y Prif Swyddog Meddygol a Iechyd Cyhoeddus Cymru bod angen cau.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid gwneud penderfyniadau cyflym mewn cyfnod digyffelyb, medd Kirsty Williams

Mae'n annog rhieni i siarad 芒'u darparwyr gofal plant arferol os oes angen trefnu gofal yn ystod gwyliau'r Pasg.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhan o'r trafodaethau gan fod hi'n "debygol y bydd gan rai o staff ysgol ran bwysig i'w chwarae yn hyn".

Mae rhai ysgolion eisoes wedi cau gan fod gymaint o staff yn cadw draw o'r gwaith am eu bod yn dilyn y cyngor swyddogol i hunan ynysu.

Ychwanegodd Kirsty Williams y byddai ysgolion ar gau "am gyfnod sylweddol o amser".

"Rhaid i mi fod yn eglur gyda rhieni heddiw - dydw i ddim yn rhagweld y byddwn ni'n gallu cael ysgolion yn 么l i drefn arferol wedi gwyliau'r Pasg - ni fyddan nhw'n 么l yn normal am gyfnod sylweddol o amser."

'Penderfyniad cywir'

Mae undebau addysg wedi croesawu'r cyhoeddiad i gau ysgolion, ar 么l galw am y fath gam i warchod gweithluoedd a rhybuddio y byddai llawer o ysgolion yn cael trafferth aros ar agor wedi diwedd yr wythnos yma.

Dywedodd Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb yr arweinwyr ysgolion a cholegau, ASCL yng Nghymru mai "dyma yw'r penderfyniad cywir ar yr adeg cywir, yn sgil difrifoldeb y sefyllfa a'r pwysau ar ysgolion wrth i nifer cynyddol o staff hunan ynysu".

Dywedodd cyfarwyddwr undeb y prifathrawon, NAHT Cymru, Laura Doel: "Mae manylion sut gallwn ni gefnogi plant bregus a phlant gweithwyr allweddol eto i'w cwblhau, ond bydd arweinwyr ysgol ac athrawon yn dymuno bod yn rhan o'r ymateb cenedlaethol.

"Mae ysgolion yn chwarae rhan ganolog yn ein cymunedau a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau systemau cefnogol fel bod gweithwyr allweddol yn gallu parhau i weithio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r penderfyniad yn un "doeth" sy'n "sicrhau cysondeb ledled Cymru", medd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb athrawon UCAC, Dilwyn Roberts-Young.

Ond wrth i drafodaethau dyddiol barhau gyda Llywodraeth Cymru, mae'r undeb yn pwyso am ddatganiad "buan iawn ynghylch sefyllfa arholiadau allanol" a chanllawiau ynghylch y disgwyliadau ar staff yn y tymor byr.

"Mae'r ansicrwydd yn achosi pryder difrifol i ddisgyblion a staff fel ei gilydd," meddai. "Rhaid cael eglurder cyn gynted 芒 phosib."

Croeso a chwestiynau'r gwrthbleidiau

Er yn croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Iechyd, mae Plaid Cymru'n galw am "ganslo, gohirio neu addasu arholiadau TGAU a Safon Uwch" gan anelu at eu cynnal yn yr hydref.

"Mae'n bosib edrych ar sawl opsiwn gan gynnwys defnyddio graddau disgwyliedig fel sail i gael mynd i brifysgol, neu addasu cyrsiau TGAU," meddai llefarydd iechyd y blaid, yr AC Sian Gwenllian.

Galwodd hefyd am gefnogaeth iechyd meddwl i ddisgyblion yn sgil yr ansicrwydd ynghylch arholiadau, a chanllawiau pellach, mwy clir gan Lywodraeth Cymru am r么l ysgolion yn y tymor byr.

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Suzy Davies wedi codi cwestiynau tebyg, er yn croesawu'r ddarpariaeth a chefnogaeth yn achos rhai disgyblion.

"Yr hyn sy'n destun pryder yw'r cwestiwn a allai ysgolion ailagor wedi'r gwyliau yn 么l yr arfer," meddai. "Mae'n edrych yn annhebygol."

Mae'n dweud fod disgyblion angen gwybodaeth am drefniadau arholiadau, sut mae parhau a'u hastudiaethau o'u cartrefi ac ateb buan i'r trafodaethau ynghylch graddau i fynd i'r brifysgol.