Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2020
A dyna ni ar ddiwrnod anarferol o'r Siambr.
Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar ddydd Mercher, 25 Mawrth.
Y cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Gweinidog Addysg
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Cwestiynau Amserol
Alun Jones and Sara Down-Roberts
A dyna ni ar ddiwrnod anarferol o'r Siambr.
Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar ddydd Mercher, 25 Mawrth.
Mae ACau yn ethol David Melding fel Llywydd dros dro rhag ofn nad yw'r Llywydd na'r Dirprwy yn gallu cadeirio cyfarfodydd llawn.
Fe gyhoeddodd y Llywydd hefyd newid i drefn y Busnes yr wythnos nesaf gan gadarnhau y bydd y Cyfarfod Llawn yn cwrdd ar un diwrnod yn unig wythnos nesaf, ar ddydd Mercher, gyda sesiwn yn y bore a sesiwn yn y prynhawn.
Bydd hyn yn galluogi i Gwestiynau i鈥檙 Prif Weinidog gael eu cynnal fel yr arfer, cyn i Weinidogion wneud datganiadau er mwyn diweddaru Aelodau ar effeithiau diweddaraf y Coronafeirws ar eu meysydd polisi. Bydd hyn hefyd yn cyfyngu ar yr amser y bydd rhaid i Aelodau ei dreulio yn y Senedd.
Dywedodd y Llywydd fod y Pwyllgor Busnes yn parhau i drafod ffyrdd o alluogi鈥檙 Cynulliad i gwrdd ac i barhau 芒鈥檌 waith dros gyfnod y toriad er mwyn sicrhau fod y Llywodraeth yn gallu diweddaru Aelodau a bod y gwrthbleidiau yn cael y cyfle i graffu mewn modd amserol a phriodol.
Wrth gyflwyno鈥檙 cynnig dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC:
鈥淢ae鈥檙 newidiadau hyn i鈥檙 Rheolau Sefydlog yn angenrheidiol er mwyn galluogi鈥檙 Cynulliad i barhau 芒鈥檔 gwaith hyd orau ein gallu mewn amgylchiadau digynsail.鈥
Yr eitem olaf ar yr agenda heddiw yw Cwestiynau Amserol.
Dim ond un cwestiwn sydd wedi dod i law. Mae Alun Davies (Blaenau Gwent) yn gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cymorth i fusnesau a'r economi a wnaed ar 17 Mawrth 2020?
Ddoe fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi manylion pecyn gwerth dros 拢200m i helpu busnesau bach ymdopi yn sgil y nifer cynyddol o achosion o coronafeirws.
Mae'r Gweinidog Economi Ken Skates yn ateb: "Rwy'n gwerthfawrogi cyhoeddiad y canghellor ond yn amlwg mae rhaid i mwy gael ei wneud yn ystod y diwrnodau nesaf - i gefnogi busnesau o ran talu cyflogau, a chefnogaeth ariannol i bobl sydd wedi colli eu gwaith."
Mae Dai Lloyd o Blaid Cymru yn dweud wrth Eluned Morgan bod Abertawe wedi gefeillio gyda Wuhan, prifddinas talaith Hubei - lle'r oedd y coronafeirws ar ei waethaf yn China.
Datblygodd cysylltiad rhwng y ddau le yn 1855 pan sefydlodd Griffith John o Abertawe ysbyty yn Wuhan.
Wrth gael ei holi gan yr AC Darren Millar faint o Gymry sydd methu dychwelyd o wyliau tramor mae'r Gweinidog yn ateb "does gennym ddim yr union ffigyrau ond ry'n yn annog pobl i ddod adref os yn bosib".
Symudwn ymlaen at Gwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.
Mae Caroline Jones o Blaid Brexit yn gofyn pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r diwydiant twristiaeth i liniaru'r effaith y gallai coronafeirws ei chael yng Nghymru.
Mae Eluned Morgan yn ateb "mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth bod y sector hon angen help ar frys".
Fel enghraifft mae'n cyfeirio at y gostyngiad mewn trethi busnes a gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Kirsty Williams yn dweud y bydd hi'n siomedig os na "fydd penderfyniad am arholiadau yng Nghymru cyn diwedd yr wythnos."
"Dwi ddim yn disgwyl y bydd pob ysgol yn agor ac yn gweithredu erbyn diwedd gwyliau'r Pasg," medd Kirsty Williams wrth ACau.
"Yn amlwg byddwn yn adolygu'r sefyllfa."
Mae Sian Gwenllian o Blaid Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad bod ysgolion yn cau ond mae'n dweud bod angen i'r gweinidog addysg roi "canllawiau clir i ysgolion am eu r么l yn y tymor byr".
Mae hefyd yn dweud bod hi'n bryd "cael gwared, gohirio neu addasu arholiadau TGAU a Safon Uwch - gyda'r bwriad o'u cynnal yn yr hydref neu dod i drefniant arall.
"Byddai hynny," meddai, "yn lleddfu'r pwysau ar ysgolion.
"Mae defnyddio graddau rhagybiedig hefyd yn opsiwn," meddai.
Mae Suzy Davies o'r Ceidwadwyr yn gofyn be sy'n digwydd i arholiadau yn dilyn y cyhoeddiad am gau ysgolion.
Mae Kirsty Williams yn ateb: "Rwy'n gobeithio gwneud penderfyniad am arholiadau yn y dyfodol agos."
Mae Kirsty Williams yn dweud wrth y Ceidwadwr David Melding: "Rwy' wedi dweud wrth fy nhair merch am gadw dyddiadur fel eu bod yn gallu bwrw golwg yn 么l ar eu profiadau pan ddaw'r wlad yn 么l i normal."
Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn cadarnhau bydd ysgolion Cymru yn cau ddydd Gwener.
"Bydd penderfyniad heddiw yn rhoi amser i ysgolion baratoi yn iawn," meddai.
Mae disgwyl i ganolfannau gofal plant aros ar agor nes eu bod yn cael cyngor i gau.
O ganlyniad i haint coronafeirws, mae rhan fwyaf o'r eitemau oedd ar yr agenda ar gyfer heddiw wedi cael eu gohirio, gan gynnwys cytundebau rhyngwladol y DU ar 么l Brexit, deiseb ar gynorthwyo teuluoedd sy鈥檔 colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl, a chreulondeb i anifeiliaid.
Bydd y cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Yn ystod y munudau diwethaf mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cau ddydd Gwener a hynny bythefnos cyn gwyliau swyddogol y Pasg.