成人快手

Cyfyngu oriau ymweld ysbytai a chanslo digwyddiadau

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty GwyneddFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rheolau ymweld mewn grym yn holl ysbytai'r bwrdd iechyd

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi y bydd oriau ymweld yn holl ysbytai'r bwrdd yn cael eu cyfyngu o achos coronafeirws.

O hyn allan bydd pob ymweliad yn cael eu cyfyngu i 15 munud mewn ysbytai, wardiau iechyd meddwl ac ysbytai cymunedol.

Fe fydd y rhai sydd am ymweld 芒 chleifion yn gorfod gwneud hynny rhwng 14:00 a 16:00, neu 18:00 a 19:30.

Dim ond un ymwelydd fydd yn cael mynediad ar y tro ac ni fydd plant o dan 16 oed yn cael mynediad i weld cleifion.

Ar y wardiau plant, dim ond un rhiant neu ofalwr fydd yn cael ymweld ar y tro.

Ar unedau mamolaeth, dim ond un cymar fydd yn cael ymweld pob mam feichiog ar y tro, ac mae'r un rheol mewn grym ar gyfer ymweld 芒 mamau sydd gyda babanod newydd anedig.

Ychwanegodd y bwrdd iechyd y gall y rheolau gael eu llacio mewn achosion o gleifion sy'n wynebu diwedd oes, cleifion difrifol wael neu mewn rhai achosion gyda chleifion iechyd meddwl.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gobaith y cyngor yw y bydd Ysgol Penweddig yn ailagor ddydd Iau

Mae Ysgol Uwchradd Penweddig yn Aberystwyth ynghau ddydd Mercher yn dilyn pryderon am coronafeirws ar y safle.

Dywedodd Cyngor Ceredigion bod yr ysgol yn cael ei glanhau wedi i "aelod o staff ddatblygu symptomau coronafeirws".

Mae 成人快手 Cymru yn deall bod rhai disgyblion ar eu ffordd yno ar fws ysgol pan ddaeth y cyhoeddiad, a bu'n rhaid troi am yn 么l.

Cyhoeddodd y gweinidog addysg Kirsty Williams y bydd holl ysgolion Cymru yn cau ddydd Gwener.

Llyfrgelloedd a gwasanaethau ar gau

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi y bydd holl lyfrgelloedd y sir ar gau o ddydd Mercher ymlaen.

Dywedodd y cyngor y bydd gweithgareddau clybiau ieuenctid a chyrsiau addysg i oedolion yn dod i ben am y tro hefyd.

Bydd Ysgol Maes Y Coed ac Uned Anghenion Dysgu Dwys a Niferus yn Ysgol Gynradd Abbey hefyd ar gau o hyn allan.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych y bydd sioeau Theatr Pafiliwn y Rhyl yn cael eu gohirio tan 6 Ebrill 2020. Mae canolfannau hamdden, y Nova, SC2 a Ninja TAG y Rhyl i gyd ar agor fel arfer.

Bellach mae Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun wedi cau ac mae dosbarth meithrin Ysgol Pen Barras yn Rhuthun yn cau o ddydd Iau 19 Mawrth o ganlyniad i faterion staffio. Bydd yr ysgol yn adolygu'r sefyllfa ac yn hysbysu rhieni a gwarcheidwaid medd y cyngor.

Hefyd mae'r gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu symudol yn ardaloedd Corwen a Llangollen ar foreau Sadwrn yn dod i stop am y tro. Bydd pob gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu arall yn parhau fel arfer am y tro.

Yng Nghaerdydd mae disgwyl y bydd marchnad canol y ddinas ar gau o ddydd Gwener ymlaen.

Ac yn Wrecsam, mae pob digwyddiad oedd i fod i gael eu cynnal yn llyfrgelloedd y sir wedi cael eu gohirio am y tro.

Bydd Amgueddfa Wrecsam ar gau a galer茂au, gofodau perfformio a'r siop yn T欧 Pawb hefyd ar gau.

Canslo g诺yl fwyd a Tafwyl

Mae trefnwyr G诺yl Fwyd Caernarfon wedi penderfynu peidio 芒 chynnal g诺yl 2020 o achos sefyllfa coronafeirws.

Mewn datganiad, dywedodd y trefnwyr: "Mae hyn yn sicr yn siom i ni fel trefnwyr, ac yn si诺r o fod felly hefyd i'r stondinwyr, perfformwyr a'r miloedd sydd yn mynychu yn flynyddol.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Maes Caernaefon dan ei sang yng ng诺yl 2019

"Rydym wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn i godi arian er mwyn gallu cynnal yr 诺yl a bydd yr arian hwnnw nawr yn cael ei gadw er mwyn gallu cynnig g诺yl werth chweil yn 2021.

"Rydym yn cydymdeimlo yn fawr efo'r artistiaid a'r busnesau hynny sydd am ddioddef colledion ariannol dros y cyfnod nesaf, a byddwn ni fel criw gwirfoddol yn si诺r o fod allan yn y gymuned yn cynnig cymorth ble bo angen."

Mae trefnwyr Tafwyl hefyd wedi cyhoeddi na fydd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen eleni chwaith o achos y sefyllfa ddiweddaraf gyda coronafeirws.

Pobol y Cwm yn atal ffilmio

Hefyd ddydd Mercher daeth cadarnhad y byddai cyfres Pobol y Cwm yn atal ffilmio am y tro.

Dywedodd y 成人快手 mewn datganiad y byddai聽dram芒u 成人快手 Studios, sy'n cynnwys yr opera sebon Gymreig a'r gyfres Casualty sy'n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd,聽yn atal ffilmio am gyfnod amhenodol.

Mae cwmni ceir Toyota wedi penderfynu atal eu gwaith hefyd, a hynny trwy Ewrop gyfan, gan gynnwys eu safle yng Nglannau Dyfrdwy.