成人快手

Heddwas a gweithiwr ONS wedi cael coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Mynediad maes parcio'r ONS yng NghasnewyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed rheolwyr bod swyddfa'r ONS yng Nghasnewydd yn parhau i fod ar agor

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod heddwas sydd yn gweithio yng ngorsaf yr heddlu ym Merthyr Tudful wedi derbyn diagnosis positif o Covid-19.

Mae'r swyddog yn hunan ynysu gartref, ac fe gafodd yr orsaf ar Barc Busnes Rhydycar ei chau nos Fawrth er mwyn ei glanhau'n drylwyr.

Erbyn bore dydd Mercher roedd yr orsaf wedi ail-agor gyda dyletswyddau'r heddlu'n parhau fel arfer yno.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r De fod y llu wedi bod mewn cysylltiad agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ni chafodd gwasanaethau plismona'r gymuned eu heffeithio.

Gweithiwr ONS

Yn gynharach ddydd Mercher fe gadarnhaodd rheolwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yng Nghasnewydd bod un o'r gweithwyr yno wedi cael prawf positif am straen Covid-19 o'r coronafeirws.

Maen nhw hefyd wedi dweud bod y swyddfa'n parhau ar agor a'u bod yn "cymryd camau priodol i warchod lles" eu staff.

Cafodd pedwar achos newydd eu cadarnhau yng Nghymru ddydd Mercher, gan godi'r cyfanswm i 19.

"Byddem yn parhau i fonitro ein gweithrediadau yn unol 芒 chyngor swyddogol iechyd cyhoeddus a'r llywodraeth," meddai datganiad yr ONS.

Yn y cyfamser dywedodd Canolfan Iechyd Llanedern yng Nghaerdydd ddydd Mercher fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi eu cynghori i gau oherwydd achos coronafeirws posib,

Mae'r feddygfa'n dargyfeirio galwadau i'w safle yn Llanrhymni.

Ddydd Mercher daeth cadarnhad gan gwmni Sky fod gweithiwr yn eu canolfan alwadau yng Nghaerdydd, oedd dan amheuaeth o fod 芒 Covid-19, heb ei heintio wedi'r cyfan.

Dywedodd llefarydd fod y cadarnhad yn dilyn "rhagor o ymchwil ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru dros nos".

Ychwanegodd fod y cwmni "wedi gweithredu'n bendant" er lles gweithwyr ddydd Mawrth trwy gau'r ganolfan a danfon staff adref, a'u bod yn ailagor y safle ddydd Iau.