成人快手

Cymru yn wynebu 'risg unigryw' oherwydd coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Intensive care unitFfynhonnell y llun, sudok1/Getty Images

Mae Cymru yn wynebu "risg unigryw" oherwydd coronafeirws yn 么l un o feddygon dwys blaenllaw Cymru.

Yn 么l Dr Jack Parry-Jones mae prinder staff ac adnoddau achosi pryder gan fod 90% o welyau mewn unedau gofal dwys yn brysur fel arfer.

Mae e'n bryderus, meddai, ar yr effaith ar wasanaethau os yw'r galw ychwanegol yn datblygu fel y sefyllfa yn Yr Eidal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "cynlluniau yn eu lle i gynyddu'r cyflenwad o ofal dwys".

Mae Dr Parry-Jones yn feddyg ymgynghorol gofal dwys yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

'Cymylau tywyll'

"Mae hyn yn dawelwch cyn y storm - fe allwn weld y cymylau tywyll yn agos谩u," meddai.

"Mae gennym lai o welyau gofal dwys [y pen] na gweddill y DU, ac mae gan y DU lai o welyau na llawer o wledydd yn Ewrop.

"Mae hynny yn risg unigryw os oes cynnydd sydyn mewn galw a dim digon o gyflenwad."

Eglurodd bod 90% o unedau gofal dwys yn llawn fel arfer, felly byddai cynnydd mewn galw yn achosi pwysau ychwanegol.

Beth allai gael ei wneud i gwrdd 芒 galw ychwanegol?

  • Atal llawdriniaethau rheolaidd a defnyddio ardaloedd llawfeddygaeth mewn ysbytai i ofalu am gleifion anghenion dwys

  • Defnyddio sgiliau anesthetyddion, sydd 芒 sgiliau gofal dwys, fel rhan o'r defnydd o staff ychwanegol sydd 芒 phrofiad o ofal dwys.

Beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd?

Mae tua 9,600 o gleifion yn derbyn gofal gwasanaethau dwys bod blwyddyn yng Nghymru.

Ond mae gan GIG Cymru lai o welyau gofal dwys y pen na gweddill y DU.

Mae poblogaeth sy'n cynyddu ac yn heneiddio ar gyfartaledd yn golygu bod y galw am ofal dwys yn cynyddu tua 4-5% yn flynyddol.

Roedd 176 o welyau gofal dwys mewn 14 ysbyty (yn 2016) ac maen nhw'n costio 拢102m yn flynyddol.

Yn 2018/19 roedd 153 gwely gofal dwys ar gael yn ddyddiol, cynnydd o draean o gymharu 芒 naw mlynedd yn 么l.

Ond dyw hynny ddim yn ddarlun cyflawn. Yn 2018, bu'n rhaid i 40% o unedau gau am gyfnod bob wythnos oherwydd prinder staff, gan arwain at gyfradd llenwi unedau gofal dwys o 95%.

Dywedodd Dr Parry-Jones, sydd wedi bod yn ymgynghorydd ers dros 20 mlynedd, bod staffio yn parhau i fod yn fater o bryder ac mae hyfforddi staff ychwanegol yn "araf a chostus."

Yn 么l Dr Parry-Jones: "Beth sy'n ein poeni yn benodol yw'r sefyllfa yn Yr Eidal. Mae'n wlad Ewropeaidd, mae eu capasiti gofal dwys yn uwch na Chymru. ac mae ganddyn nhw broblem fawr."

Bydd arbenigwyr gofal dwys yn cynnal cyfarfod dydd Mercher i drafod yr argyfwng.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel mae achosion yn cynyddu, bydd gofal yn cael ei roi yn y lleoliad clinigol mwyaf addas.

"Rydym yn disgwyl i ran fwyaf o gleifion gael eu trin yn eu cartref. Ar gyfer achosion mwy dwys mae cynlluniau yn eu lle er mwyn i ysbytai dderbyn cleifion i gyfleusterau arbennig."