成人快手

Coronafeirws: 'Osgoi bod yn yr un cwch 芒'r Eidal'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Dr Angharad Davies bod "sawl gwahaniaeth rhwng coronafeirws a'r ffliw"

Mae nifer y bobl sy'n marw o coronafeirws "yn dibynnu yn arw ar y sefyllfa o ran y gwasanaeth iechyd yn yr ardal ar y pryd", medd microbiolegydd blaenllaw.

Yn 么l Dr Angharad Davies, athro cysylltiedig clinigol gydag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae'r sefyllfa yn Yr Eidal yn amlygu gallu straen Covid-19 "i ledu'n gyflym ac i lethu systemau iechyd yn reit sydyn... ac yn y sefyllfa hynny mae'n achosi mwy o farwolaethau".

Ychwanegodd: "Mewn sefyllfa lle mae gofal o dan reolaeth, a does dim gormod o achosion, mae marwolaethau'n llawer llai a dyna 'dan ni'n trio osgoi - bod ein system iechyd ni yn cael ei llethu gan y feirws yma."

Hyd at nos Fercher, 19 oedd cyfanswm yr achosion coronafeirws sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

Dywedodd Dr Davies: "Mae gwyddonwyr yn credu bod y coronafeirws wedi bod yn lledu yn y gymuned yn Yr Eidal yn weddol eang am rai wythnosau cyn pythefnos yn 么l pan ddaeth y broblem wir i'r amlwg.

"Felly 'dan ni'n gobeithio nad ydyn ni yn yr un cwch 芒 nhw eto, a'n bod ni fwy na phythefnos ar eu holau nhw ar hyn o bryd."

Dydy data modelau "mathemategol soffistigedig" y gwyddonwyr ddim yn awgrymu angen ar hyn o bryd i ystyried camau fel cau ysgolion a chanslo digwyddiadau torfol.

"Mi fyddan nhw yn defnyddio'r modelau yma yn ofalus iawn ac yn eu hasesu nhw sawl gwaith y diwrnod, si诺r o fod, i weld pryd yw'r adeg cywir i ddod 芒'r mesurau yma i mewn," meddai.

"Does dim pwrpas dechrau canslo pethau cyn bod 'na ddigon o'r feirws o gwmpas yn y gymuned i fod yn fuddiol, achos mae'r sefyllfa yna yn si诺r o barhau am fisoedd eto."

Disgrifiad,

Beth yw profiadau Cymry tramor o fesurau coronafeirws?

Er bod coronafeirws, sy'n cael ei ledu trwy ddiferion, yn cael ei gymharu 芒'r ffliw, mae yna "sawl gwahaniaeth pwysig", meddai Dr Davies.

"Efo'r ffliw, mae'r feirws yn gallu aros yn yr awyr yn hirach, ac aros yn yr aer mewn ystafell, er enghraifft," meddai.

"Dydy coronafeirws ddim yn gwneud hynny felly mae'r lled ychydig yn wahanol."

Ychwanegodd bod y feirws "yn gallu achosi haint difrifol, hyd yn oed mewn pobl gweddol ifanc ac iach" ond "fod o ddim yn edrych yn achos haint difrifol mewn plant".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Technegwyr labordy Canolfan Arbenigol Firoleg yn cynnal prawf coronafeirws yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd

Mae yna amcangyfrif y gallai gymryd "o leiaf blwyddyn ar y gorau" i greu brechiad ac mae'r gwyddonwyr yn mynd ati "mor gyflym ag y gallan nhw", meddai Dr Davies.

"Mi allan nhw greu brechiad yn gymharol gyflym, ond y broblem ydy gwneud y treialon a'r profion i ddangos ei bod hi'n ddiogel i'w rhoi i bobl ac mae hynny yn mynd i gymryd amser."

Ychwanegodd: "Y potensial ydy i'r feirws yma fod yn rhan o'r feirysau eraill sy'n mynd rownd y byd drwy'r amser, a bydd o wastad yna.

"Ar 么l yr epidemig cyntaf, fe fydd mwy o bobl wedi'i gael o ac felly efallai yn llai tebygol o gael eu heintio eto.

"Ond 'dan ni ddim yn wir yn gwybod pa mor dda fydd hynny yn eich rhwystro chi rhag cael yr haint eto."