Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Estyn: Bwlch perfformiad addysg 'ddim yn lleihau'
Dydy'r bwlch perfformiad rhwng disgyblion o gartrefi llai cefnog a disgyblion eraill ddim wedi gwella dros y degawd diwethaf ac mae'n parhau i fod yn "her fawr", yn 么l y corff arolygu addysg.
Mae cau'r bwlch wedi bod yn bolisi blaenllaw i Lywodraeth Cymru, gyda grantiau gwerth 拢100m y flwyddyn wedi eu buddsoddi er mwyn hybu perfformiad plant mwy difreintiedig.
Ond yn 么l adroddiad blynyddol Estyn, nid yw'r gwahaniaeth rhwng cyrhaeddiad a phresenoldeb wedi lleihau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu polis茂au yn arwain at "godi safonau a gwella cyfleoedd bywyd holl fyfyrwyr".
'Dal eisiau gwell'
Wrth sefyll arholiadau TGAU, mae 32.1% yn llai o ddisgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn cael pum canlyniad da sy'n cynnwys Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg.
Mae cyfraddau presenoldeb hefyd yn waeth ymhlith disgyblion tlotach ac mae'r bwlch hwn hefyd wedi parhau dros ddegawd, meddai Estyn.
Dywedodd prif arolygydd Estyn, Meilyr Rowlands, fod Cymru wedi gwneud yn dda o'i gymharu 芒 gwledydd eraill o ran tegwch ymysg disgyblion.
Ychwanegodd fod "Cymru'n wlad gyfartal iawn o ran addysg".
"Ond 'da ni dal eisiau gwneud llawer iawn yn well, a 'dan ni wedi gwneud yn well o ran y plant mwyaf bregus sydd mewn unedau cyfeirio disgyblion ac mewn ysgolion arbennig annibynnol," meddai.
"Mae dal angen gwneud mwy o waith i gau'r bwlch tlodi yma - dyw hwnna ddim wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf."
Awgrymodd Mr Rowlands bod nifer o bethau roedd modd gwneud i wella'r sefyllfa.
"Un ydy gwella ansawdd yr addysgu a'r dysgu a dyna beth yw bwriad y cwricwlwm newydd," meddai.
"Rhywbeth arall gallwn ni wneud yw cael mwy o ysgolion cymunedol.
"Mae'r ysgolion yna'n gwneud yn si诺r bod rhieni a'r gymuned yn rhan o'r ysgol, bod nhw'n cefnogi eu plant yn well a bod yr ysgolion hynny'n denu'r rhieni a'r gymuned i mewn i fywyd yr ysgol drwy eu cefnogi nhw - falle drwy eu cyfeirio nhw at wasanaethau sy'n medru eu helpu."
Yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn Llwynhendy ger Llanelli, dywedodd y pennaeth Jayne Davies bod ceisio cael "sicrwydd emosiynol" i'r plant yn hanfodol i'w llwyddiant.
Mae'r ysgol yn cynnal gweithgareddau fel sesiynau ioga dyddiol yn y dosbarth i helpu'r disgyblion i "ymlacio a datblygu gwytnwch".
"Mae hynny yn ei hunan wedi cael effaith aruthrol ar safonau ymddygiad, disgyblaeth a hefyd ar gynnydd yn yr ysgol," meddai.
'Safonau'n codi'
Mae cau'r bwlch cyrhaeddiad yn elfen allweddol o "genhadaeth genedlaethol" Llywodraeth Cymru i wella addysg, ac mae wedi buddsoddi'n helaeth yn y maes.
Cafodd y grant amddifadedd disgyblion ei gyflwyno yn 2012, a'i newid yn ddiweddarach i grant datblygu disgyblion.
Yna cafodd ei ehangu i gynnwys plant iau ac i dalu costau fel gwisg ysgol a chit chwaraeon.
Mae 拢101m wedi ei glustnodi yng nghyllideb 2020-21 ar gyfer y grant datblygu disgyblion.
Fe wnaeth Estyn hefyd ganfod bod:
- Safonau'n dda neu'n well mewn tua 80% o ysgolion cynradd ac mae'r gyfran 芒 safonau rhagorol wedi parhau i godi, gyda 10% yn rhagori;
- Safonau'n dda neu'n well mewn bron i hanner yr ysgolion uwchradd gafodd eu harolygu, ac mae cyfran yr ysgolion sy'n peri pryder yn parhau i fod yn her;
- Gwelliannau yn yr ysgolion arbennig annibynnol a'r unedau cyfeirio disgyblion, gydag enghreifftiau o ragoriaeth am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod safonau'n codi, gan gyfeirio'n benodol at gynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n cael prydau bwyd am ddim a lwyddodd i gael o leiaf un TGAU Gwyddoniaeth.
"Llynedd fe wnaeth adroddiad PISA hefyd ddangos bod y bwlch cyrhaeddiad yng Nghymru yn llawer llai na gwledydd eraill y DU a thu hwnt, gan olygu bod cefndir plentyn yng Nghymru yn cael llawer llai o effaith ar eu cyrhaeddiad na gwledydd eraill."