Ysgolion yn colli arwyddion cynnar o eithafiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ysgolion yn colli cyfleoedd i adnabod arwyddion cynnar o eithafiaeth gan eu bod nhw'n cael eu hystyried yn amherthnasol, yn 么l arolwg ysgolion Estyn.
Dywedodd yr adroddiad - sy'n s么n am ddyletswyddau ysgolion i amddiffyn disgyblion rhag cael ei radicaleiddio - bod angen cydnabod bod yna "risg gwirioneddol" i ddisgyblion ymhob ysgol.
Mae gan ysgolion ddyletswydd i ddiogelu disgyblion o eithafiaeth fel rhan o'u dyletswyddau diogelwch.
Er hyn, mae'r adroddiad yn nodi y gall diffyg ymwybyddiaeth arwain at ysgolion yn colli cyfle i roi cefnogaeth i bobl ifanc yn ddigon cynnar.
Y llynedd, cafodd 258 o bobl yng Nghymru eu cyfeirio at asiantaethau perthnasol ac roedd dros hanner o'r rheiny o dan 20 oed.
Mae'r adroddiad yn dweud bod gan ysgolion r么l allweddol i chwarae wrth edrych am arwyddion cynnar o eithafiaeth asgell dde, Islamaidd neu'n gynyddol o radicaleiddio heb ideoleg glir.
Ond pwysleisiodd yr adroddiad nad yw rhai ysgolion yn gwneud digon i adeiladu gwytnwch disgyblion yn erbyn dylanwadau eithafol trwy'r hyn sy'n cael ei ddysgu.
Dywedodd bod gan yr arweinwyr yn y rhan fwyaf o ysgolion ddealltwriaeth o'u r么l a'u cyfrifoldeb yn gysylltiedig 芒 radicaliaeth ac eithafiaeth.
Ond "o fewn nifer fach o ysgolion, dydy arweinwyr ddim yn ystyried radicaliaeth ac eithafiaeth i fod yn bwysig i'w hysgol neu'r ardal gyfagos", a bod hynny'n golygu gall "staff yn yr ysgolion yma golli cyfleoedd i adnabod a delio gyda phryderon am ddisgyblion".
'Y llefydd mwyaf annisgwyl'
Pwysleisiodd yr adroddiad rhaid bod yn wyliadwrus o ddefnydd iaith hiliol a bwlio ar sail hil.
Yn ogystal, dywedodd bod gan y rhan fwyaf o ysgolion polis茂au yngl欧n ag aros yn ddiogel ar-lein ond dim ond lleiafrif siaradodd am y peryg mae defnyddiau radical ac eithafol ar-lein yn peri.
Dywedodd Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol i Estyn, gall "radicaleiddio a throi at eithafiaeth dreisgar ddigwydd yn y llefydd mwyaf annisgwyl".
"Dylai ysgolion fod yn wyliadwrus o fwlio, yn enwedig y defnydd o iaith hiliol a gwrthdaro rhwng disgyblion o hiliau gwahanol all fod yn arwydd o farnau radical neu eithafol."
Beth all ysgolion wneud?
Gall ysgolion gysylltu 芒 phaneli 'Channel' os oes pryder ganddynt am ddisgybl. Cafodd y paneli eu creu o dan strategaeth Atal Terfysgaeth Llywodraeth y DU.
Maen nhw'n cael eu cadeirio gan y cyngor ac maen nhw'n cynnwys cyrff iechyd ac addysg, a'r heddlu.
Dengys ffigyrau'r Swyddfa Gartref y cafodd 258 o bobl yng Nghymru eu cyfeirio atyn nhw dros bryderon o eithafiaeth rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.
Cafodd 13 eu trafod gan y panel ac aeth 12 ymlaen i dderbyn cefnogaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018