Estyn yn amau ysgolion o symud plant i wella data arholiadau
- Cyhoeddwyd
Mae arolygwyr wedi rhybuddio y gallai rhai ysgolion fod yn symud plant oddi ar eu cofrestr er mwyn gwella data arholiadau.
Dywedodd Estyn bod cyfran y disgyblion nad oedd wedi symud ymlaen o Flwyddyn 10 i 11 wedi bron a dyblu dros chwe blynedd.
Yn 么l Llywodraeth Cymru mae'r cynnydd yn destun pryder.
Ond dywedodd un undeb dysgu bod yna nifer o resymau gwahanol pam y gallai disgybl adael cofrestr ysgol.
Yn 2017-18 doedd 1,352 o ddisgyblion ddim wedi symud ymlaen i flwyddyn olaf TGAU.
Roedd disgyblion sydd yn hawlio prydau ysgol am ddim a rhai ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o beidio symud i Flwyddyn 11.
Roedd y canran o'r ddau gr诺p wnaeth ddim symud o flwyddyn 10 yn 10% llynedd.
Fe ganolbwyntiodd Estyn ar ddisgyblion oedd wedi ail-wneud Blwyddyn 10 a rheiny oedd wedi symud i gael addysg mewn lleoliad arall heblaw'r ysgol.
"Mae dadansoddiad o ddata yn awgrymu nad oedd mwyafrif y disgyblion a oedd yn ail-wneud Blwyddyn 10 yn gwneud hynny am resymau dilys," meddai llefarydd.
"O'r 91 disgybl a wnaeth ail-wneud Blwyddyn 10 yn 2018-19, roedd dros hanner y disgyblion hyn mewn ychydig iawn o ysgolion."
'Ymarferion drwg'
Unedau cyfeirio disgyblion yw'r prif leoliadau ar gyfer darparu addysg heblaw yn yr ysgol, ond mae hefyd yn cynnwys darpariaeth gan golegau addysg bellach, ysgolion annibynnol a thiwtora.
Mae rhai plant yn rhannu eu hamser rhwng yr ysgol a'r lleoliad arall.
Yn 么l Estyn dydy'r niferoedd sydd yn symud i leoliadau addysg eraill ddim wedi newid yn fawr ond roedd cyfran uwch nawr wedi eu cofrestru dan y lleoliad arall yn hytrach na'r ysgol, a hynny'n golygu na fyddai eu canlyniadau yn cyfrif at ddata arholiadau'r ysgol.
Ond yn 么l undebau dysgu mae arweinwyr ysgolion yn gwneud penderfyniadau er budd y disgyblion.
Dywedodd Rob Williams o NAHT Cymru bod yna nifer o wahanol resymau y byddai disgybl yn symud o'r gofrestr, er bod symud disgyblion er mwyn gwella'r data yn "anghywir".
"Os allwn ni ganfod pa mor gyffredin yw'r ymarferion drwg, a'r rhesymau craidd amdanyn nhw, fe allwn ni sicrhau bod yna gefnogaeth i ysgolion i wneud penderfyniadau gwell," meddai.
"Ond ddylai hynny ddim fod ar draul mwyafrif ysgolion, fydd efallai yn gweld symudiadau o'r gofrestr sydd yn ymddangos fel petaen nhw heb esboniad, ond sydd am resymau dilys mewn gwirionedd."
'Ffordd hawdd i wella perfformiad'
Dywedodd yr adroddiad bod yna ddarlun anghyson ar draws awdurdodau lleol wrth fonitro cofrestriadau disgyblion, a doedd trefniadau mewn ambell un ddim yn ddigon trylwyr.
Yn 么l lleiafrif o'r swyddogion cyngor gymrodd rhan mewn arolwg, roedd ysgolion yn awyddus i ddisgyblion gael eu cofrestru yn bennaf yn y lleoliad addysg arall, fel nad oedd eu canlyniadau'n cyfrif.
"Mae ysgolion yn gweld bod hyn yn ffordd hawdd iddynt wella eu data perfformiad," meddai'r adroddiad.
Mae'n galw ar awdurdodau lleol i fonitro sut mae ysgolion yn cofrestru disgyblion "i roi sicrwydd fod ysgolion bob amser yn gweithredu er lles pennaf disgyblion unigol".
Oherwydd y niferoedd bach, mae'r data yn anghyflawn ar gyfer rhai awdurdodau lleol.
Ond dangosodd y ffigyrau diweddaraf mai Gwynedd, Wrecsam, Ynys M么n a Sir Gaerfyrddin oedd 芒'r cyfrannau uchaf o ddisgyblion oedd ddim wedi symud yn syth i Flwyddyn 11, a Merthyr a Sir Ddinbych oedd 芒'r cyfrannau uchaf ar gyfer disgyblion oedd wedi eu cofrestru yn bennaf mewn lleoliadau addysg eraill.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn datblygu polis茂au newydd yngl欧n 芒 chofrestriadau disgyblion a mesur ysgolion i geisio osgoi arferion drwg.
"Mae'n destun pryder bod nifer y disgyblion sydd ddim yn symud ymlaen o Flwyddyn 10 i 11 wedi cynyddu," meddai llefarydd.
Ychwanegodd y Comisiynydd Plant, Sally Holland: "Mae'n rhaid bod penderfyniadau fel hyn yn cael eu seilio ar beth sydd orau i'r plentyn unigol hynny, a byth i ddylanwadu ar 'berfformiad' ysgol.
"Mae'n rhaid i'r llywodraeth sicrhau fod y ffordd mae ysgolion yn cael eu hasesu yn eu hannog i roi'r plentyn yn gyntaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd20 Medi 2019