成人快手

Storm Dennis: Disgwyl tywydd garw ar y penwythnos

  • Cyhoeddwyd
Goleudy Porthcawl yng nghanol y tonnauFfynhonnell y llun, Lee McGrath
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Goleudy Porthcawl yn nannedd Storm Ciara

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw dros y penwythnos, gwta wythnos ers i ran helaeth o Gymru ddioddef effaith Storm Ciara.

Bydd y rhybudd am Storm Dennis yn dod i rym am 10:00 fore dydd Sadwrn, ac yn dod i ben am 23:59 nos Sul.

Bydd y gwyntoedd cryfaf yn hyrddio yn ystod prynhawn a nos Sadwrn cyn i bethau dawelu am gyfnod dros nos.

Mae disgwyl mwy o wyntoedd cryfion ddydd Sul ac fe all y gwyntoedd gyrraedd 60-70mya ar yr arfordir ac mewn mannau agored.

Mae disgwyl gwyntoedd o 50mya mewn ardaloedd eraill.

Nid oes disgwyl y bydd y storm yr un mor ddinistriol 芒 Storm Ciara, ond fe allai achosi ychydig o drafferthion i deithwyr ar y ffyrdd, rheilffyrdd a llongau.

Mae disgwyl i law trwm ar gyfnodau achosi amgylchiadau gyrru anodd i deithwyr ar y ffyrdd.