成人快手

Angen cymorth garddwyr i 'achub' afalau a gellyg unigryw

  • Cyhoeddwyd
Perllan IBERSFfynhonnell y llun, Daniel Thorogood/Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y berllan y tu 么l i Blas Gogerddan ym Mhenrhyn-coch ei phlannu yn 2018

Mae gwyddonwyr sydd wedi creu perllan unigryw o fathau hanesyddol o afalau a gellyg Cymreig yn galw ar arddwyr profiadol i gymryd toriadau o'r coed i'w ychwanegu i'w perllannau eu hunain.

Mae dros 60 o fathau hanesyddol o afalau a gellyg Cymreig bellach yn rhan o berllan treftadaeth a sefydlwyd ar gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth yn 2018.

Y gobaith yw y gallai'r berllan chwarae rhan flaenllaw wrth ailgyflwyno'r mathau yma o afalau a gellyg yn 么l i mewn i'r brif ffrwd yn y dyfodol.

Nawr mae garddwyr sydd 芒'u perllannau eu hunain yn cael eu hannog i gysylltu gyda'r t卯m ymchwil er mwyn eu cynorthwyo yn y gwaith o sicrhau ffyniant i'r rhywogaethau.

"Mae tua 7,500 math o afal yn cael eu tyfu ledled y byd," meddai'r bridiwr planhigion a'r genetegydd Dr Danny Thorogood o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

"Mae tua 100 math hysbys ddaw o Gymru yn bodoli heddiw, [ac] mae nifer o'r rhain ym mherllan treftadaeth y brifysgol.

"Mae gennym fathau o afal fel Frederick a Cummy Norman sy'n cael eu defnyddio i wneud seidr, a gellygen perai Little Cross Huffcap sydd wedi ei henwi ar 么l y fferm yn Sir Fynwy ble y cafodd ei darganfod."

Ffynhonnell y llun, Danny Thorogood/Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r cnwd cyntaf o'r berllan newydd, sef afalau o'r enw Jane

Cafodd proffil DNA cyflawn ei gymryd o'r coed sy'n unigryw i Gymru ac yna fe gawson nhw eu plannu yn y berllan newydd ar dir y tu 么l i Blas Gogerddan ym Mhenrhyn-coch ger Aberystwyth.

Nawr mae'r brifysgol yn dweud bod croeso i arddwyr profiadol luosogi eu mathau treftadaeth eu hunain gan ddefnyddio toriadau o'r berllan.

"Ein nod yw cynnal rhagor o ymchwil gwyddonol ar ddefnydd delfrydol pob un o'n mathau treftadaeth a'u gwneud yn ddewis amgen masnachol posibl i gynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr eu defnyddio mewn cynnyrch prif ffrwd," meddai Dr Thorogood.

Bydd y brifysgol yn cynnal gweithdy ddydd Mercher i ddysgu garddwyr sut i docio coed afal a gellyg yn broffesiynol ar gyfer y gaeaf.