成人快手

Creu perllan o goed afalau a gellyg sy'n unigryw i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Perllan Cynhenid
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Danny Thorogood a th卯m o wirfoddolwyr yn creu'r berllan ar ddarn o dir y tu 么l i Blas Gogerddan ym Mhenrhyn-coch

Bydd coed afalau a gellyg sy'n unigryw i Gymru yn cael eu plannu mewn perllan newydd sbon ger Aberystwyth.

Mae gwyddonwyr yn gobeithio creu'r berllan drwy blannu coed afalau sydd 芒 changen wedi ei thrawsblannu arni o goeden gynhenid arall, gyda'r bwriad o warchod yr "adnodd unigryw".

Mae dros 50 o goed afal a gellyg unigryw yng Nghymru, ac mae dwy o'r coed yna ar dir Prifysgol Aberystwyth ei hun.

Yn 么l y gwyddonydd sy'n arwain y t卯m ymchwil, mae'n bosib mai dim ond crafu'r wyneb maen nhw wedi ei wneud hyd yma.

'Tipyn o antur'

Dywedodd Danny Thorogood o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS): "Mae rhai o'r perllannau sydd gyda ni yng Nghymru yn hen ofnadwy, ac mae'n amlwg bod rhai o'r coed yma bellach yn ganrifoedd oed.

"Ond beth sydd ddim yn amlwg iawn ydy pam fod rhai coed wedi goroesi yn enwedig yn yr ardaloedd mwy gorllewinol, achos dyw'r tywydd yn fanno ddim yn ffafrio coed afalau i dyfu gan amlaf.

"Ry'n ni'n gweithio gyda'r Gymdeithas Seidr a Pherai Cymru i adnabod rhai o'r rhywogaethau coed afal sy'n unigryw i Gymru er mwyn cael proffil DNA cyflawn o'r coed yma a'u cyflwyno nhw i'r berllan newydd.

"Cafodd profion eu cynnal ar bedair coeden sydd ar ein tir ni, ac o gymryd DNA o ddail y coed ry'n ni wedi gallu darganfod bod dwy ohonyn nhw'n hollol unigryw.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y coed ifanc yma'n cael eu cludo o Sir Henffordd i'r berllan newydd yng Ngheredigion

"Mae'n dipyn o antur, achos os ydy'r gwaith hwn yn dwyn ffrwyth, efallai y bydd modd creu cyfle fan hyn i ffermydd Cymru arallgyfeirio rhywfaint drwy ddefnyddio'r adnodd cynhenid hwn, sydd mor fuddiol hefyd i'r amgylchedd."

Mae'r broses o greu'r berllan eisoes wedi dechrau. Mae coed afalau, sydd 芒 changen wedi ei drawsblannu arno o goeden unigryw arall, wedi bod yn cael eu tyfu mewn bridfa yn Sir Henffordd.

Ddiwedd mis Chwefror bydd y coed yn cael eu trosglwyddo i gae tu 么l i Blas Gogerddan ym Mhenrhyn-coch, lle bydd gwirfoddolwyr o Brifysgol Aberystwyth yn eu plannu i greu'r berllan.

Gobaith y gwyddonwyr maes o law ydy y bydd staff y brifysgol a'r gymuned leol yn gallu ymweld 芒'r berllan, ac fe fydd byrddau gwybodaeth yn cael eu gosod ar y safle yn esbonio cefndir y cynllun a'r coed eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Ian Sturrock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae afal Enlli yn un o'r 50 math o goed afal sy'n unigryw i Gymru.

"Mae gan rai o'r ffrwythau yma enwau hollol Gymreig, fel Afal Pethyre, Pig Aderyn, Afal Pen Caled, a'r un peth gyda'r gellyg - Berllanderi Red, Gwehelog, Rhydlydan.

"Maen nhw'n bwysig i'n diwylliant ni, ac mae 'na wir botensial i ni fanteisio ar y nodwedd ddigymar yma a'i dyfu'n ddiwydiant mawr."

Maes o law, mae'r gwyddonwyr yn gobeithio darganfod mwy o'r coed unigryw yma drwy annog tirfeddianwyr sydd 芒 choed ffrwyth hynafol i gysylltu er mwyn i brofion DNA gael eu cynnal ar eu coed nhw hefyd.