成人快手

'Angen rheolau cyson' wrth ddosbarthu bathodynnau glas

  • Cyhoeddwyd
bathodyn glasFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen rheolau mwy cyson ar draws Cymru yngl欧n 芒 sut mae pobl anabl yn cael bathodynnau glas, yn 么l pwyllgor o Aelodau Cynulliad.

Ar hyn o bryd mae 'na ganllawiau gan Lywodraeth Cymru yn dweud sut y dylai awdurdodau lleol eu dosbarthu.

Ond gan nad oes rhaid i gynghorau eu dilyn, mae'n golygu bod gan bob un eu ffordd eu hunain o ddyfarnu pwy sy'n gymwys i gael bathodyn.

Yn 么l John Griffiths AC dylai taclo'r anghysondeb "fod yn flaenoriaeth" i'r llywodraeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried cynnwys yr adroddiad yn y man.

'Hanfodol i bobl'

Mewn adroddiad, fe ddywedodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad bod angen sefydlu canllawiau statudol fyddai'n cael eu dilyn gan bob un o'r 22 cyngor yng Nghymru.

Clywodd y pwyllgor bod rhai ardaloedd ble mae pobl yn cael eu hasesu gan therapyddion galwedigaethol arbenigol, tra bod ardaloedd eraill ble mae'r asesiadau'n cael eu gwneud gan staff cyffredin.

Ychwanegodd elusen ganser Tenovus bod rhai yn gofyn am ffurflenni cais ar-lein tra bod eraill ddim, ac nad oedd pob awdurdod lleol yn mynnu cael asesiadau neu lythyr yn egluro cyflwr ymgeiswyr.

Does dim proses o apelio penderfyniadau bathodynnau glas chwaith, meddai'r pwyllgor, gyda phobl yn aml yn gorfod ail-ymgeisio er nad yw'n glir pa wybodaeth ychwanegol sydd ei angen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae bathodynnau glas yn adnodd hanfodol i lawer iawn o bobl yn ein cymdeithas," meddai Mr Griffiths, cadeirydd y pwyllgor.

"Hebddynt byddai llawer yn ei chael hi'n anodd cyrraedd gwasanaethau hanfodol, fel mynd i apwyntiadau meddygol."

Ychwanegodd: "Mae trefniadau gwahanol ar draws y 22 o gynghorau yn golygu fod y cynllun yn cael ei weithredu'n anghyson ar draws Cymru.

"Dylai mynd i'r afael 芒 hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, fel y gall pawb gael gwasanaeth o ansawdd, waeth ble maent yn byw."

Ymhlith argymhellion y pwyllgor roedd galwad am ddatblygu proses ble mae pobl sy'n dioddef o gyflyrau gydol oes neu ddirywiol gael bathodyn glas yn awtomatig heb orfod cael eu hasesu'n bellach.

Fe wnaethon nhw hefyd alw am sefydlu gweithgor o gynrychiolwyr o awdurdodau lleol er mwyn rhannu arfer da, a'i gwneud hi'n ofynnol i gynghorau gael proses o ailystyried ceisiadau.