Giggs yn dewis 26 ar gyfer carfan ymarfer ym Mhortiwgal
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Cymru, Ryan Giggs wedi enwi 26 o chwaraewyr fydd yn teithio i Bortiwgal fel rhan o'r paratoadau cyn gemau rhagbrofol yn erbyn Croatia a Hwngari mis nesaf.
Mae saith chwaraewr wedi'u cynnwys am y tro cyntaf - gan gynnwys Owen Evans, Dylan Levitt a Nathan Broadhead.
Bydd nifer o'r chwaraewyr o'r fuddugoliaeth yn erbyn Slofacia ym mis Mawrth yn y garfan - gan gynnwys Gareth Bale, Joe Allen, David Brooks a Dan James.
Ond daeth cadarnhad na fydd Aaron Ramsey na Ethan Ampadu ar gael oherwydd anafiadau.
Ni fydd Ben Davies na Ben Woodburn ar gael oherwydd rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA a bydd Harry Wilson, Tom Lawrence a Neil Taylor yn colli allan oherwydd y g锚m ail-gyfle rhwng Derby ac Aston Villa.
Ar 么l cyfnod o ymarfer yn yr Algarve rhwng 22-28 Mai, bydd Giggs yn cyhoeddi'r garfan derfynol i wynebu Croatia (8 Mehefin) a Hwngari (11 Mehefin) ar ddydd Mercher, 29 Mai yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.
Y garfan yn llawn:
Wayne HENNESSEY (Crystal Palace), Owen EVANS (Wigan Athletic), Adam DAVIES (Barnsley);
Connor ROBERTS (Abertawe), Chris GUNTER (Reading), Chris MEPHAM (Bournemouth), James LAWRENCE (Anderlecht), Ashley WILLIAMS (Everton), Tom LOCKYER (Bristol Rovers), Joe RODON (Abertawe), Ben WILLIAMS (Barnsley);
Dylan LEVITT (Manchester United), Joe ALLEN (Stoke City), Matthew SMITH (Manchester City), Will VAULKS (Rotherham United), Rabbi MATONDO (Schalke 04), Dan JAMES (Abertawe), David BROOKS (Bournemouth), Terry TAYLOR (Wolverhampton Wanderers);
George THOMAS (Caerl欧r), Gareth BALE (Real Madrid), Sam VOKES (Stoke City), Kieffer MOORE (Barnsley), Nathan BROADHEAD (Everton), Louis THOMPSON (Norwich City), Ryan HEDGES (Barnsley).