Tri chwaraewr ddim ar gael i Gymru i herio Slofacia
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Ethan Ampadu, Tom Lawrence na Sam Vokes ar gael i Gymru ar gyfer y gemau yn erbyn Trinidad a Tobago a Slofacia yr wythnos yma oherwydd anafiadau.
Yn ogystal, ni fydd chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey ar gael ar gyfer y g锚m yn erbyn Trinidad a Tobago ar y Cae Ras yn Wrecsam.
Ond dywedodd y rheolwr Ryan Giggs y bydd Ramsey yn holliach i herio Slofacia yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Mae Cymru wedi bod yn ymarfer yng nghyfleusterau Manchester United cyn y g锚m yng ngogledd Cymru nos Fercher.
Yna bydd y t卯m yn teithio i'r brifddinas cyn dechrau eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2020 brynhawn Sul.
Ni wnaeth Ramsey gymryd rhan ym mharatoadau'r garfan ddydd Mawrth gan ei fod yn cael triniaeth am anaf.
Roedd David Brooks, Daniel James a James Lawrence yn ymarfer ar wah芒n i weddill y garfan ddydd Mawrth ond mae disgwyl iddyn nhw fod ar gael ar gyfer y ddwy g锚m.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2019