Chwe Gwlad: Un newid i d卯m Cymru i wynebu'r Alban
- Cyhoeddwyd
Mae Warren Gatland wedi gwneud un newid i d卯m Cymru fydd yn dechrau'r g锚m yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Bydd y clo, Adam Beard yn dechrau'r g锚m yn lle Cory Hill, sydd allan o weddill y gystadleuaeth yn dilyn anaf i'w bigwrn.
Mae gweddill y t卯m yn cynnwys y chwaraewyr ddechreuodd y fuddugoliaeth o 21-13 yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Principality.
Yr unig newid arall i'r garfan yw bod Jake Ball yn cymryd lle Beard ar y fainc.
Bydd Gareth Anscombe yn parhau yn safle'r maswr, gyda Dan Biggar, unwaith eto yn gorfod bodloni gyda lle ymysg yr eilyddion.
Fe fydd buddugoliaeth yn Murrayfield ddydd Sadwrn yn golygu y bydd Cymru gam yn nes at sicrhau Camp Lawn, gydag un g锚m yn weddill yn erbyn Iwerddon ar benwythnos olaf y bencampwriaeth.
Yn y cyfamser, does dim lle i'r capten Greig Laidlaw yn nh卯m Yr Alban, gydag Ali Price yn dechrau'n safle'r mewnwr yn ei lle.
Mae hynny'n un o bedwar newid sydd i d卯m Gregor Townsend ar gyfer y g锚m yng Nghaeredin.
T卯m Cymru
Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Gareth Anscombe, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (C), Josh Navidi, Justin Tipuric, Ross Moriarty.
Eilyddion: Elliott Dee, Nicky Smith, Dillon Lewis, Jake Ball, Aaron Wainwright, Aled Davies, Dan Biggar, Owen Watkin.
T卯m Yr Alban
Blair Kinghorn; Tommy Seymour, Nick Grigg, Pete Horne, Darcy Graham; Finn Russell, Ali Price; Allan Dell, Stuart McInally (C), Willem Nel, Grant Gilchrist, Jonny Gray, Magnus Bradbury, Jamie Ritchie, Josh Strauss.
Eilyddion: Fraser Brown, Gordon Reid, Simon Berghan, Ben Toolis , Hamish Watson, Greig Laidlaw, Adam Hastings, Byron McGuigan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2019