成人快手

Gwyddonwyr Caerdydd yn taclo heriau mawr i'r amgylchedd

  • Cyhoeddwyd
Plastig
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Creu "economi cylchol" lle mae plastigau'n cael eu hailddefnyddio yn lle eu taflu yw'r nod i wyddonwyr Caerdydd

Catalysis - faint ohonom ni sydd erioed wedi ystyried pa mor ddylanwadol yw'r gangen yma o wyddoniaeth yn ein bywydau bob dydd?

Y gred yw bod tua 90% o'r prosesau diwydiannol sy'n cynhyrchu nwyddau i'n cartrefi, a thyfu bwyd i'n cynnal, yn dibynnu arno.

Bellach mae t卯m o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn dweud y gallai ateb rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r amgylchedd hefyd.

Gyda grant o 拢7m maen nhw'n ceisio datblygu catalyddion all ailgylchu plastig yn fwy effeithiol, puro d诺r a glanhau aer sydd wedi'i lygru.

Beth yw catalysis?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y catalyddion mwyaf cyfarwydd i'r rhan fwyaf yw'r rhai sydd mewn systemau llosg nwy ceir

Ymchwilio i ddeunyddiau sy'n cyflymu adweithyddion cemegol, yw'r ateb syml.

Os gymysgwch chi foleciwlau penodol 芒'i gilydd gall gymryd blynyddoedd iddyn nhw adweithio.

Ond taflwch gatalydd i'r pair ac fe wnawn nhw ddechrau gwneud hynny o fewn eiliadau.

Mae diwydiannau mawr yn dibynnu arnyn nhw i gynhyrchu popeth o ddeunyddiau adeiladu a gwrtaith i feddyginiaethau.

Ond mae'n si诺r taw'r enghraifft amlyca' o'u defnydd yw mewn systemau llosg nwy (exhaust) ceir, lle maen nhw'n helpu i wanhau'r nwyon gwenwynig sy'n cael eu cynhyrchu gan yr injan cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau i'r atmosffer.

Oes 'na ffyrdd eraill y gall catalyddion fod o fudd?

Yn Sefydliad Catalysis Prifysgol Caerdydd maen nhw newydd dderbyn grant o 拢7m gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Corfforol Prydain i geisio ateb y cwestiwn yma.

Yn 么l yr Athro Graham Hutchings, pennaeth yr adran, mae ei d卯m yn "arloeswyr yn y maes o ddylunio catalyddion".

Maen nhw eisoes wedi cael cryn lwyddiant wrth ddatblygu catalydd aur ar gyfer cynhyrchu PVC - un o'r plastigion mwyaf poblogaidd.

Mae'n golygu bod ffatr茂oedd ar draws y byd yn cael gwared ar y catalydd mercwri gwenwynig yr oedd yn arfer cael ei ddefnyddio, gan fod gan hwnnw oblygiadau negyddol i iechyd pobl a'r amgylchfyd.

Fe arweiniodd y darganfyddiad at wobrau a sylw rhyngwladol i'r t卯m, gyda'u catalydd aur yn cael ei fasnachu bellach gan gwmni cemegion byd-eang Johnson Matthey.

Erbyn hyn, maen nhw'n awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio catalyddion i ailgylchu plastig yn effeithiol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn y pen draw, targedu allyriadau carbon deuocsid yw prif nod gwyddonwyr catalysis, meddai'r Athro Hutchings

"Fe ddangosodd rhaglen ddogfen 'Blue Planet' David Attenborough yn glir faint o broblem yw plastig yn ein moroedd," eglurodd yr Athro Hutchings.

"Yr hyn sy'n ein diddori ni yn benodol yw ceisio cyfrannu at greu economi cylchol - lle mae'r moleciwlau yn y plastig yn cylchdroi ac yn cael eu hailddefnyddio, yn hytrach na bennu lan mewn landfill neu gael eu llosgi.

"Mae hynny'n ateb tymor byr - sy'n gwneud dim i ddatrys y broblem fawr, fyd-eang sy'n ein hwynebu."

Fe fyddan nhw hefyd yn troi eu sylw at buro d诺r, gan geisio dod o hyd i opsiynau eraill ar wah芒n i glorin i ddiheintio hylif.

Bydd prosiect arall yn ceisio ailgylchu d诺r gwastraff o sinciau, cawodydd a pheiriannau golchi dillad yn y cartref.

Serch hynny, yn 么l yr Athro Hutchings prif nod unrhyw wyddonydd catalysis yw dod o hyd o ffyrdd i dargedu carbon deuocsid, sy'n gyrru newid hinsawdd.

"Felly ry'n ni'n edrych yn agos ar y llefydd lle mae allyriadau (emissions) ar eu mwyaf - fel pwerdai a gweithfeydd, gan weld a fedrwn ni fachu'r CO2 yna a'i droi yn rhywbeth defnyddiol," meddai.

"Mae'r hyn sy'n digwydd yn yr adran yma yn mynd i gael effaith ar fywydau pobl.

"Mae wastad yn bosib gwella prosesau diwydiannol, a dyle ni wastad fod yn chwilio am ffyrdd i wneud hynny a lleihau faint o lygredd sy'n dod ohonyn nhw.

"Wedi'r cyfan, mae'n wastraff arian i'r diwydiannau hynny os nad ydyn nhw'n defnyddio'r holl atomau yn effeithiol. Dyw eu colli nhw i'r amgylchedd ddim yn glyfar yn ariannol."