Datblygu gwastraff plastig all redeg ceir hydrogen
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr wedi datblygu ffordd o droi gwastraff plastig yn hydrogen ac yn gobeithio y bydd modd ei ddefnyddio i redeg cerbydau yn y dyfodol.
Mae'r broses yn cynnwys ychwanegu deunydd sy'n amsugno golau i blastig, ei roi mewn sylwedd a'i osod yng ngolau'r haul.
Yn 么l Dr Moritz Kuehnel o adran cemeg Prifysgol Abertawe fe allai fod yn rhatach nag ailgylchu plastig oherwydd mae modd defnyddio unrhyw fath o blastig a does dim angen i'w lanhau.
"Mae biliynau o dunnelli o blastig yn cael ei ddefnyddio bob blwyddyn, a dim ond canran ohono sy'n cael ei ailgylchu," meddai.
"Rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio'r hyn sydd ddim yn cael ei ailgylchu.
Dim angen golchi plastig
"Mae'n rhan fwyaf o boteli plastig yn cael ei wneud o blastig PET [polyethylene terephthalate] ac fe ellir ei ailgylchu ond yn ymarferol dydy hynny ddim o hyd yn digwydd.
"Mae nifer o resymau dros hynny - dydy ailgylchu, yn gyffredinol, ddim yn rhad ac felly mae'n haws i losgi pethau neu eu tirlenwi.
"Ond hyd yn oed wrth ailgylchu, mae'n rhaid iddo fod yn bur - PET yn unig, heb ei gymysgu ag unrhyw beth arall... ac mae'n rhaid iddo fod yn l芒n, dim saim nag olew."
Ychwanegodd fod golchi'r plastig yn ddrud iawn, a'i fod ddim yn cael ei ailddefnyddio'n aml oherwydd nad yw wastad cystal 芒 phlastig newydd sbon.
Sut mae'n gweithio?
Torri'r plastig a rhwbio'r arwynebedd i'w wneud yn arw;
Ychwanegu catalydd ffoto - deunydd sy'n amsugno golau haul - a defnyddio'r egni i'w droi'n egni cemegol;
Rhoi'r plastig mewn math arbennig o doddiad alcalin;
Taflu golau haul neu lamp solar ar y plastig i gynhyrchu hydrogen.
Ychwanegodd Dr Kuehnel: "Rhagoriaeth y broses yma yw... ei bod yn gallu dirywio pob math o wastraff.
"Hyd yn oed os mae 'na fwyd neu rywfaint o saim o dwb marjar卯n, dydy'r adwaith ddim yn cael ei atal, mae'n ei wella.
"Mae'r broses yn cynhyrchu nwy hydrogen. Rydych yn gweld swigod yn dod ohono. Fe allwch chi ei ddefnyddio, er enghraifft, i redeg car hydrogen."
Mae'r gwaith yn cael ei wneud gyda labordy yng Nghaergrawnt yn sgil cyllid gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol a chwmni petrogemegol o Awstria.
Fe all gymryd blynyddoedd cyn dechrau defnyddio'r dechnoleg ar lefel ddiwydiannol.
Ychwanegodd Dr Kuehnel bod modd creu plastig newydd, gl芒n o'r hyn sy'n weddill ar 么l cynhyrchu'r hydrogen.