成人快手

Beth yw logo eich tref chi?

  • Cyhoeddwyd

Sut arfbais sydd gan eich tref chi? Gan amlaf mae logos cynghorau tref Cymru yn debyg iawn i'w gilydd, ar ffurf arfbais ffurfiol yn cynnwys llewod, dreigiau, cennin Pedr ac yn y blaen. Ond mae yna rai sydd fymryn yn wahanol.

Dyma lond llaw ohonyn nhw, oes mwy o rai difyr?

1. Sancl锚r

Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Sancl锚r

Baedd gwyllt yw logo Cyngor Tref Sancl锚r.

Roedd baeddod yn cael eu hela'n lleol yn yr Oesoedd Canol ac yn cael eu hystyried yn symbol o gryfder. Mae hyn wrth gwrs yn cael ei adlewyrchu yn hanes y Twrch Trwyth yn y Mabinogion. Cafodd y baedd ei fabwysiadu fel arwyddlun ar S锚l Gorfforaethol Tref Sancl锚r yn y 1800au ac mae'n cael ei ddefnyddio ers hynny.

Baedd sydd hefyd yn ganolog ar logo'r ysgol gynradd leol a'r clwb rygbi.

2. Pwllheli

Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Pwllheli

Dros y blynyddoedd mae anghytuno wedi bod am hanes arfbais Pwllheli gan nad oedd gan y dref erioed arbais swyddogol.

Mae s么n bod s锚l, wedi ei wneud o g诺yr, a llun gafr arno yn bodoli ar un adeg ond collwyd hwnnw mewn t芒n.

Yn 1857 daethpwyd o hyd i hen s锚l mewn plasdy lleol yn dangos llun eliffant a chastell ar ei gefn. Hwnnw bellach yw emblem a logo'r dref.

Mae'r castell yn golygu cadernid a diogelwch a'r eliffant yn golygu nerth a doethineb. O amgylch y llun mae'r geiriau 'SIGILLUM COMMUNITATIS DE VILLE DE PORTHELY, sef 'S锚l Cymuned Tref Porthely' - sylwch ar y sillafiad diddorol 'Porthely'!

3. Llanfair-ym-Muallt

Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Llanfair-ym-Muallt

'Bu' yw'r hen air Cymraeg am wartheg. Yr un 'bu' sydd yn 'buarth' a 'bugail'. Mae'r enw 'bu-allt' felly yn golygu 'allt y gwartheg', neu 'allt y fuwch'. Mae'r ffaith hefyd bod economi yr ardal, yn yr oesoedd canol, yn ddibynnol iawn ar y farchnad wartheg yn ychwanegu at werth y ddelwedd o fuwch ar y logo.

Dyna egluro enw'r dref a'r fuwch ond pam buwch wen tybed? Ganrifoedd yn 么l roedd br卯d o wartheg gwynion unigryw i'w gael yn yr ardal. Mae Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt hefyd yn defnyddio buwch wen fel eu logo.

4. Cydweli

Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Cydweli

Mewn hen ddogfennau mae enw tref Cydweli'n cael ei sillafu fel Catwelli. Am gyfnod, y gred oedd mai cyfeirio at gath oedd yr enw.

Bu rhai'n dadlau bod y dref wedi ei henwi ar 么l dyn o'r enw Cattas. I ddrysu pethau ymhellach credai rhai mai dyfrgi oedd hen fascot y dref.

Ond yn 么l y s么n, yn dilyn y Pla Mawr (1349-1350) a laddodd ddegau o filoedd o drigolion Cymru, yr anifail cyntaf i'w weld yn fyw yng Nghydweli oedd cath ddu. Yn syth fe ddaeth yn symbol o achubiaeth a bywyd newydd a daeth yn rhan annatod o hanes y dref.

5. Tywyn

Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Tywyn

Dyn dylanwadol iawn yn Nhywyn, Meirionnydd yn Oes Fictoria oedd John Corbett. Roedd yn uchel ei barch ym myd diwydiant a gwleidyddiaeth a chafodd ei adnabod fel dyn caredig a hael wedi iddo adeiladu promen芒d er lles trigolion y dref.

Mewn hen Ffrangeg, mae'r gair corbet yn golygu br芒n ddu a dyna oedd ar ganol arfbais y teulu.

Cymaint oedd parch pobl Tywyn tuag at John Corbett fel y penderfynwyd defnyddio'r ddelwedd o fr芒n ddu i gynrychioli'r dref. Mae'r fr芒n i'w gweld ar nifer o adeiladau yn Nhywyn (a godwyd gan Corbett) hyd heddiw.

6. Llanfyllin

Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Llanfylllin

Am dros 200 mlynedd, ar fryn uwchben tref Llanfyllin, safai un goeden binwydd fawr.

Yn 2014 syrthiodd y goeden mewn gwyntoedd cryfion ond daeth criw o bobl leol at ei gilydd i osod dros 30 tunnell o bridd dros wreiddiau'r goeden yn y gobaith y byddai'n byw a chodi unwaith eto.

Daeth y goeden yn adnabyddus led-led Ewrop pan gafodd ei dewis yn un o bump coeden i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth European Tree of the Year yn 2015.

7. Y Drenewydd a Llanllwchaearn

Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref y Drenewydd

Dyn lleol oedd Robert Owen sydd ar logo y Drenewydd. Er yn dod o deulu tlawd iawn, llwyddodd yn ifanc i addysgu ei hun o lyfrau a daeth yn ddyn cyfoethog iawn ym mynd gwl芒n a thesctiliau.

Mae'n cael ei gofio fel cyflogwr a frwydrodd dros hawliau gweithwyr cyffredin a gofal plant. Roedd yn sosialydd mawr a llwyddodd i newid amodau gwaith miloedd o bobl drwy gyflwyno dulliau gweithio chwyldroadol. Mae ei effaith yn parhau hyd heddiw mewn deddfau gwaith o bob math ym Mhrydain a thu hwnt.

8. Penarth

Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Penarth

Am amser maith roedd pobl yn credu mai cyfeirio at arth, yr anifail, oedd yr enw Penarth. Ar sail hynny, yn 1875 cafodd yr arfbais bresennol ei chreu. I nodi mai tref yng Nghymru 芒 chyswllt morwrol yw Penarth ychwanegwyd luniau o ddraig goch a llong.

Ond yr hen air Cymraeg am bentir, penrhyn neu gefnen o dir yw 'pennardd' neu 'pennarth'. Mae'r gair hwn yn llawer iawn h欧n na'r dref felly mae'n debyg mai cyfeiriad at y tirwedd lleol sydd y tu 么l i'r enw Penarth, nid at yr anifail blewog!

9. Llangefni

Ffynhonnell y llun, Cyngor Tref Llangefni

Ar ganol Sgw芒r Bulkeley yn nhref Llangefni, mae cloc mawr sydd bellach yn adeilad cofrestredig. Adeiladwyd y cloc er cof am George Pritchard-Rayner, o deulu cefnog Plas Llanddyfnan, a laddwyd yn Rhyfel y Boer yn 29 mlwydd oed.

Codwyd y cloc yn 1903 o garreg galch, yr un garreg a ddefnyddiwyd yn 1884 i godi neuadd y dref gerllaw. Hyd heddiw mae'r cloc yn dal i ganu ar yr awr.

Stori: Karen MacIntyre Huws

Hefyd o ddiddordeb: