成人快手

George North: 'Symud n么l i Gymru wedi bod yn well i fi'

  • Cyhoeddwyd
George NorthFfynhonnell y llun, Paul Jenkins
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe sgoriodd North gais rhif 34 dros ei wlad yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn

Mae George North wedi dweud ei fod yn credu bod dychwelyd i rygbi rhanbarthol yng Nghymru wedi adfywio'i yrfa.

Fe ymunodd yr asgellwr 芒'r Gweilch yn yr haf, ar gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru, wedi cyfnod o bum mlynedd gyda Northampton Saints.

Mae cyn-chwaraewr y Scarlets wedi sgorio pum cais mewn chwe g锚m i'r Gweilch.

"Dwi'n meddwl allwch chi ddweud o'r ffordd dwi'n cario fy hun ar y cae a'r ffordd dwi'n chwarae bod pethau'n gweithio'n well i fi," meddai North.

"Mae jest wedi rhoi ychydig mwy o ryddid i fi gymryd mwy o ofal o fi'n hun."

Bydd North, 26, yn ddigon sicr o'i le yn nh卯m Cymru i herio Awstralia y penwythnos hwn, gyda'r t卯m yn cael ei gyhoeddi yfory.