Miss Wales: Mwy na gw锚n a cholur?
- Cyhoeddwyd
Ers blynyddoedd mae pasiantau harddwch fel cystadleuaeth Miss Wales yn rhwygo barn.
Mae rhai yn ei weld fel digwyddiad arwynebol sy'n israddio merched tra bod eraill yn dadlau bod yna lawer mwy i'r gystadleuaeth na gwenu ac edrych yn ddel.
Mae 成人快手 Cymru Fyw wedi cael barn dwy sydd 芒 safbwyntiau tra gwahanol ar y pwnc.
"Newidiodd fy mywyd am byth!"
Mi enillodd Sara Manchipp o Bort Talbot y gystadleuaeth yn 2011, ac mae hi'n credu bod cael gwisgo coron Miss Wales wedi agor drysau a rhoi cyfleoedd lu iddi:
"Pan 'nes i geisio am Miss Cymru yn 2011, roedd dim clem 'da fi yngl欧n 芒 pha mor fawr oedd y gystadleuaeth ei hun. Roeddwn i a fy ffrind wedi penderfynu ymgeisio ar 么l gweld rhywun o'n hardal ni yn siarad amdano ar Facebook.
"Pan ges i fy enwebu ar gyfer y rhestr fer, newidiodd fy mywyd am byth!
"Y peth sy'n fy siomi 'da beauty pageants yw bod pobl sydd 芒 ddim diddordeb yn y digwyddiad yn cael y syniad taw'r unig bwrpas i'r peth yw cerdded rownd yn gwisgo bikinis, gwenu lot ac edrych yn ddel o flaen cynulleidfa. 'Falle taw dyna oedd y peth yn y 70au ond nid nawr.
"Y dyddiau 'ma mae 'na lawer o bethau yn digwydd y tu 么l i'r llenni ac mae pob pasiant yn gysylltiedig ag elusen ei hun ac mae'n rhaid i'r cystadleuwyr godi arian os 'dyn nhw am gystadlu."
"Mae gan ferched fwy i gynnig"
Daw Heledd Melangell o Nant Peris, ac yn credu fod angen canolbwyntio ar fwy na dim ond sut mae merched yn edrych:
"Mae'r cysyniad o gystadleuaeth harddwch yn eithaf syml, a dydw i ddim yn si诺r sut buasai'n bosib cael y syniad 'anghywir' amdanynt. Efallai mai'r ffordd y maen nhw'n cael eu marchnata yn wahanol nawr i'r 70au, ond mae'r egwyddor yr un fath.
"Merched yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i weld pwy gaiff y wobr o fod yr un sydd yn cadw at safonau afrealistig, photoshopaidd ni o harddwch ydi o yn y b么n.
"O ran codi arian i elusen, dydw i ddim yn gweld sut mae hynny yn golygu bod y fath gystadlaethau wedi datblygu i fod yn rhywbeth cadarnhaol. Mae cwmn茂au mawrion, fel cwmn茂au niwclear a chwmn茂au arfau yn defnyddio'r un dacteg er mwyn edrych yn dda.
"Mae llawer o elusennau yn gwneud gwaith da, ond os ydi rywun am newid pethau er gwell yn y byd, be am wneud rhywbeth yn uniongyrchol? Mae gan ferched lawer mwy i gynnig na'u harddwch yn unig!"
"Dewis yr unigolyn"
Mae Sara o'r farn bod gan bob merch yr hawl i gystadlu neu beidio, ac mai dewis yr unigolyn yw'r cwbl:
"Dwi'n deall bod lot o bobl dal yn erbyn y fath 'ma o gystadleuaeth, ond ar ddiwedd y dydd, dewis y merched yw hi i gystadlu, does neb yn 'fforsio' nhw i wneud.
"Mae'r merched 'ma yn ddigon cyfforddus 芒'u cyrff fel eu bod nhw'n hapus i fynd ar lwyfan a dangos pawb does 'na ddim i fod o gywilydd amdano, ac os maen nhw'n ddigon hyderus i wneud na, beth yw'r broblem?
"Mae 'na lot yn cael ei 'sgwennu'r dyddiau yma gan y wasg yn dweud bod merched yn poeni gormod am y ffordd maen nhw'n edrych, ac mae'r gystadleuaeth yma'n dangos nad oes raid i ti ofni rhoi dy hunan mas 'na, a dangos i'r byd dy fod yn hapus a chyfforddus yn dy groen dy hun.
"Does neb ar y llwyfan wedi cael ei photoshoppio, mae pawb lan na warts and all gyda dim i guddio tu 么l."
"Dwi'n gweld y gystadleuaeth 'ma yn gyfle i rymuso merched, i godi hyder merched. Dyw pobl ddim yn ystyried faint o hyder mae'n cymryd i sefyll ar lwyfan o flaen cannoedd o bobl wrth gael eich beirniadu.
"Dwi'n teimlo dros y blynyddoedd diwethaf bod y stereoteip wedi newid - dydi'r cystadleuwyr ddim yn cael eu portreadu fel blonde bimbos rhagor. Mae nifer o'r enillwyr yn alluog tu hwnt, roedd enillydd Miss Wales 2006 yn ddoctor, 2007 yn faethegydd, 2008 yn nyrs, a dwi fy hun wed cwblhau gradd mewn Seicoleg."
Gosod Esiampl
Mae Heledd yn dadlau bod gwell esiamplau i'w dilyn na merched sy'n rhoi pwyslais ar edrychiad:
"O ran cystadlaethau harddwch yn grymuso merched, alla i ddim deall hyn o gwbl. Sut mae sefyll ar lwyfan a chael eich beirniadu ar sail eich edrychiad yn medru grymuso rhywun? Pa hawl sydd gan rywun feirniadu person ar sail hynny?
"Efallai bod ennill cystadleuaeth o'r fath yn codi hyder rhywun am sbel ond be' am bawb sydd yn colli?
"Be' am ferched sydd wedi newid hanes go iawn? Be' am Lucy Parsons a Emmeline Pankhurst? Merched fel Meinir Ffransis ac Angharad Tomos yng Nghymru? Dyna ferched sydd nid unig wedi bod yn rhan o hanes - ond wedi newid hanes!"
"Dim ond ychydig bach o hwyl ydi e."
Mae Sara yn cytuno bod pwysau yn cael ei roi ar ferched ifanc, ond ei fod yn rhy hawdd i feio cystadleuaeth fel Miss Cymru:
"Mae cymdeithas hefyd yn rhoi pwysau ar bobl ifanc i brofi ei hunain mewn sawl ffordd arall hefyd. Mae pwysau ar bawb i wneud eu gorau yn yr ysgol ac i fynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus. Dyw hi ddim yn bosib i bawb fod yn glyfar a hyderus, yr un ffordd nad yw pawb yn edrych fel modelau seis 6!
"Mae'r ddau yn gynrychiolaeth afrealistig o'r "gymdeithas ddelfrydol", ac nid yw pawb yn mynd i ffitio mewn i'r un blwch bob tro.
"Mae gan bawb ddiddordebau gwahanol. Er enghraifft, mae llawer o bobl ifanc yn cystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon. Yw hyn yn rhoi pwysau ar y cyhoedd i fod yn sporty?
"Dyw cwisiau ddim yn rhoi pwysau ar bobl i fod yn fwy deallus... yr un yw'r pwynt yma, dim ond achos bod merched (a bechgyn) yn cystadlu yng nghystadleuaethau fel Miss Wales, dyw e ddim yn awgrymu dylai bawb droi'n superficial.
"Dim pasiantau fel Miss Cymru sydd ar fai bod gymaint o stereoteips yn bodoli'r dyddiau yma. Dwi'n teimlo bod rhai pobl yn gwneud fwy o beth allan o'r pasiantau yma nag sydd rhaid. Nid y gystadleuaeth yma yw'r be all and end all i'r merched yma.
"Mae'r rhan fwyaf o'r merched dwi wedi cwrdd drwy'r broses yn cystadlu er mwyn codi hunan hyder ac adeiladu cymeriad. Mae rhai'n ei weld fel dihangfa o'u bywydau cyffredin nhw, gydag eraill yn cystadlu er mwyn dysgu sgil a mabwysiadu diddordeb newydd. Ar ddiwedd y dydd, dim ond bach o hwyl ydi e!"
Ond mae Heledd yn anghytuno:
"Efallai mai 'ychydig o hwyl' ydi o, neu ddihangfa o fywyd pob dydd rhai merched dwi'n credu ei fod o yn symptom o orthrwm yn ein cymdeithas. Buasai pasiantau o'r fath ddim yn bodoli petasai patriarchaeth wedi ei chwalu.
"Mae'n wir fod y wasg yn hollol rywiaethol. Pur debyg fod menywod sydd yn cymryd rhan yn y cystadlaethau yma yn cael eu gweld fel bimbos gan rai pobl ragfarnllyd. Ond os wyt ti'n cytuno fod y wasg mor bwerus, ei fod yn gallu camarwain pobol i ragfarnu rhai merched - pam ddim ystyried bod y wasg yn ein camarwain ni fel merched yngl欧n 芒 phwysigrwydd edrychiad yn y lle cyntaf?
"Fel menyw dwi'n gwybod yr oriau, arian ac amynedd sy'n mynd i mewn i drio edrych yn 'dderbyniol' o ran safonau cymdeithas! Pam ein bod yn teimlo'r angen i wneud hyn? A hyd yn oed cymryd rhan mewn pasiantau ynghylch y peth!
"Dydi elit y diwydiant ffasiwn ddim yn malio iot am y menywod sy'n gweithio am bron ddim byd i wn茂o'r ffrogiau ffansi rydym yn mwynhau gwisgo.
"Dydyn nhw ddim yn malio dim chwaith am y merched, sydd yn cael y syniad wedi ei stwffio i'w pen bod rhaid iddyn nhw brynu'r steiliau diweddara i fod yn hardd. Dim ond elw sydd ar eu meddyliau nhw.
"Dydi pethau ddim yn ddu a gwyn. Ie, mae pobl yn cael hwyl mewn pasiantau, ond ma' nhw'n symptom o rywbeth ehangach sy'n bod ar ein cymdeithas, yr obsesiwn gyda merched edrych yn ddel, pwy sy'n elwa? Dim ni, ond nifer fechan o ddynion busnes, yr 1%."
Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi gyntaf yn 2014