成人快手

Cynllun dadleuol am fwy o beilonau ar Ynys M么n gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
PeilonauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynlluniau'n cynnwys cyfres o beilonau newydd fydd yn agos at y rhai presennol

Mae cynlluniau i osod rhes newydd o beilonau ar draws Ynys M么n at orsaf b诺er Wylfa Newydd wedi symud gam yn nes.

Mae'r Grid Cenedlaethol wedi gyrru cais cynllunio at yr arolygiaeth gynllunio i drosglwyddo trydan o'r orsaf niwclear i'r tir mawr.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys cyfres o beilonau newydd, fydd yn agos at y rhai presennol, a thwnnel dan Afon Menai.

Daeth cadarnhad yn 2016 na fyddai cynlluniau i gladdu ceblau ar draws yr ynys yn digwydd.

Daw hyn er i Gyngor M么n wrthwynebu'r syniad o osod rhagor o beilonau, gan alw yn hytrach i'w gosod yn danddaearol.

Yn 么l Gareth Williams, sy'n uwch swyddog prosiect gyda'r Grid Cenedlaethol, bydd yr orsaf newydd yn "creu tua 9,000 o swyddi newydd" a bod "trafodaethau gyda thir feddianwyr lleol wedi gwneud gwahaniaeth i'r cynllun terfynol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r broses o osod rhagor o beilonau ar Ynys M么n wedi achosi sawl protest

Mae'r newidiadau i'r cynlluniau yn dilyn trafodaethau yn cynnwys:

  • Penderfynu ar lwybr yng nghanol Ynys M么n gan osgoi opsiynau yn agos at yr arfordir'

  • Pennu llwybr i'r peilonau newydd sy'n agos at y rhai presennol, gan gadw'r effaith ar un ardal ac i ffwrdd o drefi a phentrefi mawr;

  • Edrych yn ofalus ar sut i fynd ati i weithio ar Afon Menai gan osgoi trefi megis Porthaethwy, Llanfairpwll a'r Felinheli;

  • Gwneud cais am ganiat芒d i adeiladu twnnel, fyddai'n gwarchod Ardaloedd o Harddwch Naturiol (AONB) ar Ynys M么n a thirwedd eiconig.

Dywedodd Mr Williams: "Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghori. Rydym wedi derbyn dros 5,000 o ymatebion gan aelodau o'r cyhoedd.

"Rydym yn cydnabod nad ydym wedi llwyddo i gyflawni popeth, ond rydym yn credu fod ein hargymhellion yn cynnig y cydbwysedd gorau o ran popeth sydd angen ei ystyried.

"Mae hefyd yn golygu nad oes effeithiau hir dymor yn y rhan fwyaf o ardaloedd M么n a gogledd Gwynedd."

Ond mae dirprwy arweinydd Cyngor M么n, Ieuan Williams, wedi dweud yn y gorffennol bod y cynllun am ragor o beilonau yn "bygwth torri asgwrn cefn economaidd Ynys M么n - twristiaeth".

Ffynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai Wylfa Newydd yn cynhyrchu trydan am 60 mlynedd pe bai'n cael ei gymeradwyo

Mae gan yr arolygiaeth gynllunio 28 diwrnod i benderfynu derbyn neu wrthod cais y Grid Cenedlaethol.

Os bydd yn cael ei dderbyn yna bydd gwrandawiadau cyhoeddus yn digwydd mewn ardaloedd lleol, fydd yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan a rhoi adborth yn syth i'r arolygwyr cynllunio.