S4C 'ddim i ailadrodd' methiant Loteri Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd strategaeth fasnachol S4C yn canolbwyntio ar y diwydiant teledu a'r cyfryngau digidol yn y dyfodol, ar 么l methiant Loteri Cymru.
Wrth fynd o flaen pwyllgor diwylliant y Cynulliad, dywedodd y prif weithredwr Owen Evans ei fod am dargedu'r meysydd oedd yn gyfarwydd i'r sianel.
Fe gollodd braich fasnachol S4C, corff o'r enw SDML, dros 拢3.27m ar 么l i Loteri Cymru fynd i'r wal.
Aeth y g锚m loteri i ddwylo'r gweinyddwyr fis Mawrth.
Roedd dros 10,000 o gwsmeriaid gydag arian yn eu cyfrifon ar y pryd, ond maen nhw bellach wedi'u trosglwyddo i g锚m loteri newydd.
SDML oedd prif gefnogwr ariannol Loteri Cymru, ac roedd canlyniadau'r gemau yn cael eu darlledu ar S4C, ond fe fethodd y g锚m a denu digon o gwsmeriaid.
Wrth iddo gael ei herio am strategaeth ddigidol S4C, dywedodd Mr Evans: "Dwi'n credu mai ym maes darlledu fydd y cyfleoedd masnachol gorau ar gyfer S4C yn y blynyddoedd i ddod.
"Yn y sector dosbarthu, y byd cynhyrchu, a'r math o bethau mae gan S4C arbenigedd ynddyn nhw."
Fe gafodd Mr Evans ei holi am golledion masnachol S4C yn dilyn methiant Loteri Cymru.
Colli dros 拢3m
"Rydym wedi colli ychydig yn fwy na 拢3m, a dyna ydy popeth," meddai.
"Fyddwn ni ddim yn colli mwy na hynny, sydd dal yn swm sylweddol. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ein gweithgareddau masnachol mewn elw.
"Weithiau rydych chi'n ennill, ac weithiau'n colli. Dyma rywbeth [Loteri Cymru] fyddwn ni ddim yn ail-adrodd.
"Ond ydyn ni'n bwriadu troi ein cefnau ar fuddsoddiadau sydd 芒 risg uchel yn y dyfodol? Sai'n credu, gan fod angen portffolio cytbwys, ac mae rhai o'r meysydd ry'n ni'n buddsoddi ynddyn nhw ar flaen y gad."
Mae pwyllgor diwylliant y Cynulliad yn ystyried adolygiad annibynnol Euryn Ogwen Williams o S4C ar ran Llywodraeth y DU, wnaeth nifer o argymhellion am gylch gwaith, ariannu a threfn llywodraethu'r sianel.
Yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor yr wythnos ddiwethaf dywedodd Mr Williams bod S4C mewn sefyllfa "unigryw" i ddenu incwm masnachol o lwyfannau digidol a gwasanaethau ffrydio fel Netflix.
Dywedodd Mr Evans fod y sianel wedi dechrau gweithredu argymhellion yr adolygiad yn barod.
'Diffyg hyder'
Fe glywodd y pwyllgor hefyd gan Simon Curtis, pennaeth undeb yr actorion yng Nghymru, Equity.
Dywedodd bod "diffyg hyder" ynghylch hyrwyddo fersiynau Cymraeg y dram芒u mae S4C wedi cynhyrchu ar y cyd gyda'r 成人快手.
"Dwi ond yn gallu dibynnu ar yr hyn dwi wedi gweld gyda'r rhaglenni sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y blynyddoedd diwethaf," meddai Mr Curtis.
"Ond yn y b么n, y fersiynau Saesneg o'r rhaglenni hynny sydd wedi cael eu gwerthu. Dwi'n credu bod hyn yn cyfateb i ddiffyg hyder.
"Fe fyddai hi wedi bod yn gr锚t petai fersiwn Gymraeg y ddrama Keeping Faith [Un Bore Mercher] wedi ymddangos ar y rhwydwaith, gydag isdeitlau, os oedd yr hyder yn bodoli.
"Mae yna deimlad bod angen i'r ddrama fod ar gael yn y ddwy iaith, os yw'n mynd i lwyddo yn fasnachol."
Ychwanegodd Mr Curtis bod dram芒u o Sgandinafia yn cadw at ieithoedd gwreiddiol y cyfresi.
"Dydyn nhw ddim yn cynhyrchu fersiynau Saesneg er mwyn eu gwerthu tramor," meddai.
"Mae'r ffydd ganddyn nhw, a'r hyder i ddweud 'dyma'r ddrama, dyma'r iaith mae wedi'i chynhyrchu ynddi, dyma'r iaith y cafodd ei chomisiynu ynddi, ac o ganlyniad dyma'r iaith y byddwch chi'n gwylio ynddi'.
"Mae 'na deimlad yn bodoli eich bod yn mynd i golli cynulleidfa trwy ddangos rhywbeth gydag isdeitlau ar y rhwydwaith am 21:00 ar nos Iau.
"Ond mae pethau yn newid, ry'n ni wedi gweld y newid yn dechrau, ond efallai bod angen mwy o newid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018