成人快手

Cyhoeddi enwau llywyddion Eisteddfod Genedlaethol 2019

  • Cyhoeddwyd
Maureen Hughes ac Myrddin ap Dafydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Maureen Hughes a Myrddin ap Dafydd ymhlith yr rhai sydd wedi eu dewis fel Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Sir Conwy

Mae enwau'r Llywyddion Anrhydeddus ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy wedi cael eu cyhoeddi.

Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ar gyrion tref Llanrwst rhwng 2-10 Awst.

Yn 么l yr Eisteddfod, mae'r saith yn adnabyddus i bobl ardal Sir Conwy, ac maen nhw wedi'u gwahodd i fod yn Lywyddion oherwydd eu cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a'r Gymraeg yn lleol.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts ei bod hi'n "bwysig cydnabod cyfraniad unigolion allweddol i ddiwylliant bro'r Eisteddfod".

Y llywyddion fydd:

Myrddin ap Dafydd: Golygydd, perchennog Gwasg Carreg Gwalch a phrifardd. Mae'n un o hoelion wyth y gymuned, ac wedi cyhoeddi nifer o ddram芒u, llyfrau ar l锚n gwerin ac amryw o lyfrau i blant, ynghyd 芒 geiriau i sawl un o'n caneuon mwyaf adnabyddus.

Ieuan Edwards: Dyn busnes amlwg sydd 芒'i gynnyrch dan faner Edwards o Gonwy, sydd wedi dod yn un o'r brandiau cig enwocaf yng Nghymru a thu hwnt.

Dafydd a Catherine Lloyd Jones: Dau sydd yn amlwg iawn ym myd cerddoriaeth yn Sir Conwy, y ddau wedi cyfrannu'n helaeth i'r Eisteddfod ac i ddiwylliant eu bro am flynyddoedd lawer.

Maureen Hughes: Cyn-athrawes gerddoriaeth yn Nyffryn Conwy a chyn-bennaeth ar ysgolion cynradd Maenan a Rowen, bu'n hyfforddi C么r Merched Carmel, ac mae'n feirniad cerdd amlwg ac uchel ei pharch.

Catherine Watkin: Mae wedi cyfrannu'n fawr at hyfforddi pobl ifanc yr ardal drwy'r blynyddoedd. Mae'n osodwr cerdd dant a gwerin blaenllaw, ac yn arwain parti meibion Hogie'r Berfeddwlad, sy'n enillwyr cenedlaethol, ers bron i 20 mlynedd.

Cefyn Burgess: Yn un o gyn-ddetholwyr Y Lle Celf, mae'n adnabyddus am ei waith tecstiliau wedi'u gwehyddu a deunyddiau ar gyfer y cartref.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts ei bod hi'n "bwysig cydnabod cyfraniad unigolion allweddol i ddiwylliant bro'r Eisteddfod"

Ychwanegodd Elfed Roberts: "Dyma bobl sy'n gweithio'n ddiflino drwy'r amser, os yw Eisteddfod ar y gorwel ai peidio.

"Heb y bobl yma, byddai'r ardal yn dipyn tlotach ei diwylliant.

"Rydym yn diolch iddyn nhw i gyd am eu hymroddiad, eu gwaith, eu cefnogaeth a'u brwdfrydedd dros y blynyddoedd.

"Edrychwn ymlaen at gydweithio dros y flwyddyn nesaf wrth i'r Eisteddfod agos谩u."