成人快手

Anaf ymennydd yn gorfodi chwaraewr y Dreigiau i ymddeol

  • Cyhoeddwyd
Adam HughesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae canolwr y Dreigiau, Adam Hughes wedi cael ei orfodi i ymddeol o rygbi oherwydd anaf i'w ymennydd, yn dilyn cyngor gan arbenigwr.

Fe wnaeth y Cymro 28 oed ei ymddangosiad cyntaf i'r rhanbarth yn 2010, a symudodd i Fryste a Chaerwysg cyn ailymuno 芒'r Dreigiau yn 2015.

"Fe ddywedodd niwrolegydd nad yw chwarae rygbi yn opsiwn oherwydd dau anaf wnes i ddioddef ar fy ymennydd," meddai Hughes.

"Cafodd y penderfyniad ei wneud yn y fan a'r lle."

'Adegau anhygoel'

Dywedodd Hughes ei fod wedi amau gyntaf y byddai'n rhaid iddo ymddeol ar 么l cael cyfergyd mewn g锚m ym mis Awst 2016.

Fe ddychwelodd i'r cae bum mis yn ddiweddarach, ond dyw'r canolwr ddim wedi chwarae dros ei ranbarth ers mis Medi 2017.

Mewn datganiad gafodd ei ryddhau gan y Dreigiau, fe wnaeth Hughes ddiolch i'r rheiny sydd wedi ei gefnogi trwy ei yrfa, gan ddweud bod "chwarae dros y Dreigiau wedi rhoi adegau anhygoel i mi".

Hughes yw trydydd chwaraewr y rhanbarth i ymddeol o ganlyniad i anafiadau pen yn y tair blynedd diwethaf, gan ddilyn Ashley Smith yn 2015 a Matthew Pewtner yn 2016.