成人快手

Matthew Pewtner wedi gorfod ymddeol ar gyngor meddygol

  • Cyhoeddwyd
Matthew PewtnerFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae asgellwr y Dreigiau, Matthew Pewtner wedi gorfod ymddeol yn 25 oed ar gyngor meddygol.

Dywedodd y rhanbarth mewn datganiad nad oedd y chwaraewr wedi gwella o anaf i'w ben.

"Rydw i'n torri fy nghalon 'mod i wedi gorfod ymddeol oherwydd anaf," meddai.

"Mae hi wedi bod yn anodd iawn dod i dermau 芒 hyn, ond rwy'n gwybod mai dyma'r penderfyniad cywir.

Ychwanegodd gyfarwyddwr rygbi'r Dreigiau, Lyn Jones: "Rydyn ni oll yn drist iawn bod rhaid i Matthew ymddeol.

"Ry'n ni oll yn ddiolchgar iawn am gyfraniad enfawr Matthew i'r t卯m trwy'r blynyddoedd a ry'n ni'n dymuno'r gorau iddo ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Pewtner ei fod yn bwriadu astudio i fod yn athro.