成人快手

Carchar newydd Berwyn 'ddim yn ddiogel' yn 么l staff

  • Cyhoeddwyd
Carchar y Berwyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe agorodd Carchar Berwyn ym mis Chwefror 2017

Llai na 12 mis ar 么l ei agor, mae staff yn un o garchardai mwyaf Ewrop yn honni nad yw'n ddiogel.

Mae Cymdeithas y Swyddogion Carchardai wedi dweud wrth Newyddion 9 bod diwylliant o ofn yn bodoli ymhlith gweithwyr yng Ngharchar Berwyn, ac nad yw uwch swyddogion yn eu cefnogi.

Wrth siarad gyda 成人快手 Cymru dywedodd y cadeirydd cenedlaethol, Mark Fairhust, bod angen i "reolaeth, trefn a disgyblaeth" fod yn ei le ac y dylai rheolwr roi'r gorau i "fodloni carcharorion".

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod Carchar Berwyn yn "perfformio'n dda" ond bod angen gwneud mwy i wella diogelwch ym mhob carchar.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Mark Fairhurst does neb wedi gwrando ar ei bryderon am y carchar

Honnodd Mr Fairhurst bod diogelwch yn cael ei danseilio yn ystod ymweliadau carchar oherwydd cyfarwyddyd na ddylai swyddogion ymyrryd pan maen nhw'n amau bod pecyn yn cael ei basio rhwng ymwelydd a charcharor.

"Os ydyn nhw'n gweld rhywbeth yn cael ei 'basio' yn ystod ymweliad maen nhw'n cael eu hannog i beidio ymyrryd yn syth bin, ond i ganiat谩u i'r ymweliad ddigwydd, ac yna i archwilio'r carcharor unwaith mae'r ymweliad drosodd.

"Wrth gwrs erbyn hynny bydd y sylwedd wedi ei guddio yn gyfrinachol neu ei basio ymlaen.

"Ac wrth gwrs, efallai nad cyffuriau sydd yn cael eu pasio ymlaen yn ystod ymweliadau. Fe allai fod yn rhywbeth mwy difrifol.

"Dwi ddim yn gwybod am unrhyw garchar yn y wlad lle mae staff yn cael gwybod na ddylen nhw ymyrryd yn syth ar 么l gweld rhywbeth yn cael ei basio yn ystod ymweliadau.

"Gallai hynny fod yn drosedd."

Carchar Berwyn

Ffynhonnell y llun, NICK DANN

Yn 么l Mark Fairhurst mae adegau pan mae:

  • Swyddogion sy'n gweithio gyda ch诺n wedi cael cyfarwyddyd i beidio gwrthod ymwelwyr;

  • Rheolwyr yn caniat谩u i garcharorion aros yn eu celloedd pan mae cloch larwm wedi canu;

  • Tystiolaeth yn diflannu pan mae ymddygiad anaddas gan garcharorion yn cael ei gofnodi.

Mae Mr Fairhurst yn dweud ei fod wedi codi pryderon gyda rhai "ar y top" ond bod "dim wedi newid".

Mae'r sefyllfa meddai, wedi arwain at ddiwylliant o ofn ymhlith staff, mor芒l isel a'u hiechyd a diogelwch mewn perygl.

Mynnodd hefyd bod pryderon staff yng Ngharchar Berwyn yn "bendant yn fwy amlwg na charchardai eraill".

'Diwylliant newydd'

Yn y carchar newydd mae llywodraethwyr wedi ceisio cyflwyno diwylliant newydd gan flaenoriaethu gwerthoedd fel bod yn garedig, parch, gonestrwydd ac adferiad.

Ond mae Newyddion 9 wedi siarad gyda chyn-aelod o staff, oedd am fod yn ddi-enw, wnaeth ymddiswyddo ar 么l yr hyn mae'n disgrifio fel "bwlio".

Dywedodd: "Achos mod i wedi herio ymddygiad rhai rheolwyr, doedd hynny ddim yn dderbyniol iddyn nhw..."

"Popeth maen nhw'n honni ydy'r lle - nid dyna sut mae hi yno. Dwi'n credu 'taswn i wedi aros yno, mi fyse'r lle wedi fy ninistrio i.

"Mi fyse wedi dinistrio fy iechyd emosiynol, corfforol a meddyliol."

Mae 成人快手 Cymru hefyd wedi gweld llythyr diswyddo gan swyddog carchar profiadol wnaeth adael Carchar Berwyn.

Disgrifiad,

Roedd Geraint Woolford yn gweithio mewn carchardai yn Lloegr - ond ddim yn Berwyn - gan ddod yn reolwr, cyn gorfod ymddeol ar gyngor meddygol

Mae'n honni bod "difaterwch llwyr yngl欧n 芒 diogelwch staff" ac nad oes gan staff "yr hyder i herio dynion", gan deimlo nad ydyn nhw'n cael cefnogaeth.

Mae'r swyddog yn s么n am achlysur lle mae'n dweud bod rheolwyr wedi "diystyru" swyddogion o flaen carcharorion, gan ddweud bod hynny'n "ein diraddio ni ac yn codi cywilydd".

Ychwanegodd bod ymddygiad o'r fath yn "atgyfnerthu cred y dynion ein bod ni fel swyddogion ddim gwerth unrhywbeth yn Berwyn".

'Perfformio'n dda'

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod Carchar Berwyn yn "perfformio'n dda" ers agor llynedd, ac yn "ran hanfodol o'n buddsoddiad 拢1.3bn i adnewyddu carchardai".

Ychwanegodd: "Ond rydyn ni'n gwybod bod angen gwneud mwy i wella diogelwch ar draws y stad carchardai, a dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno camer芒u ar wisgoedd swyddogion a mwy o gamer芒u cylch cyfyng, ac wedi buddsoddi 拢100m i recriwtio 2,500 o swyddogion ychwanegol."

Dywedodd hefyd bod y carchar yn cyfarfod yn gyson gyda Chymdeithas y Swyddogion Carchardai i drafod pryderon.