成人快手

Rhybudd am 'gamarwain' rhieni gydag academ茂au p锚l-droed

Natasha Harding, sydd nawr yn defnyddio'r enw priod Allen-Wyatt, yng nghrys coch t卯m p锚l-droed merched Cymru.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Natasha Allen-Wyatt dros 100 o gapiau dros Gymru cyn ymddeol yn 2023 a dechrau academi b锚l-droed

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn rhybuddio bod cwmn茂au preifat sy'n galw eu hunain yn academ茂au yn camarwain rhieni sy'n chwilio am hyfforddiant p锚l-droed i'w plant.

Mae pryderon am y nifer cynyddol o gyrff hyfforddi sydd ddim yn cyrraedd y safonau angenrheidiol a heb y trwyddedau perthnasol.

Daw wedi i honiadau ddod i'r amlwg bod cyn-chwaraewr Cymru, Natasha Harding wedi cymryd arian am hyfforddi plant er na wnaeth ei chwmni, Academi Tash Harding, gyflawni'r gwaith.

Mae Natasha Allen-Wyatt, Harding gynt, wedi cydnabod iddi ganslo "rhai sesiynau" am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth, gan ymddiheuro am hynny.

Academ茂au p锚l-droed gyda thrwydded yw'r llwybr i'r bobl ifanc mwyaf talentog i ddatblygu eu sgiliau, yn y gobaith o gyrraedd y g锚m broffesiynol.

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) wedi sefydlu'r National Academi ar gyfer academ茂au cofrestredig yng Nghymru.

Y bwriad yw dod o hyd i'r chwaraewyr mwyaf talentog o fewn eu fframwaith proffesiynol i hyfforddi chwaraewyr y dyfodol.

Mae academ茂au wedi eu cysylltu 芒 chlybiau p锚l-droed, a'u hachredu mewn tri chategori: A, B ac C.

Yn 么l y gymdeithas, dim ond clybiau sydd wedi eu hachredu ddylai alw eu hunain yn academ茂au a bydd unrhyw un sy'n defnyddio logo neu frandio'r gymdeithas i hyrwyddo menter hyfforddi breifat yn cael cais i stopio.

Mae'r 成人快手 yn deall i gyfreithwyr y gymdeithas ysgrifennu at Ms Allen-Wyatt yn gofyn iddi ddileu eu bathodyn o frandio cynnar ei menter hyfforddi.

Pan ddaeth y cyhuddiadau yn erbyn Ms Allen-Wyatt i'r amlwg gyntaf, fe wnaeth y 成人快手 ei holi am hynny ond doedd dim ymateb.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas B锚l-droed Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Drew Sherman yw pennaeth National Academi

Dywedodd Drew Sherman, pennaeth National Academi CBDC, bod "amwysedd" am y term 'academi'.

"Mae pobl yn gwerthu breuddwyd sy' ddim o reidrwydd wedi ei hachredu na'n gymwys i wneud y freuddwyd honno'n realiti," meddai.

"Mae unrhyw academi sy'n gysylltiedig 芒 chlwb - y rhai sy'n ymwneud 芒 ni - maen nhw'n mynd trwy broses drwyadl o sicrhau ansawdd.

"Mae'n rhaglen y gallwch chi ymddiried ynddi ac un ry'n ni'n ei chefnogi ac a fydd yn awyrgylch dda i'ch plentyn."

Eglurodd bod yr holl weithwyr proffesiynol wedi cael cymhwyster gan CBDC a'r holl wirio angenrheidiol i weithio gyda phlant.

"Rhaid i'r holl bobl sy'n gweithio yn yr academ茂au clwb gael eu hachredu," meddai Mr Sherman.

Dywedodd bod unigolion sydd wedi bod trwy gyrsiau CBDC weithiau'n hysbysebu eu hunain fel rhai sy'n cael eu cefnogi gan y gymdeithas, ble nad dyna'r achos.

"Petaen ni'n ymwybodol ohonyn nhw fe fydden ni'n gofyn iddyn nhw beidio 芒 defnyddio'r logo," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryder fod cwmn茂au preifat yn gwerthu eu hunain fel academ茂au sy'n gysylltiedig 芒'r gymdeithas b锚l-droed

Mae pryderon bod ffin denau rhwng y rhaglenni hyfforddi sydd wedi eu cynllunio i fagu chwaraewyr y dyfodol a'r rhai sy'n cynnig rhywbeth sy'n fwy o hwyl ac i bawb.

Mae'r gymdeithas yn cydnabod bod lle i'r ddau beth, ond yn pwysleisio'r pwysigrwydd i rieni i fod yn ymwybodol o'r gwahaniaethau a gwneud eu hymchwil cyn cofrestru eu plant ar gyfer cwrs hyfforddi.

Ffynhonnell y llun, Neil Ward
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neil Ward yn annog rhieni i ofyn mwy o gwestiynau am bobl sy'n rhedeg academ茂au honedig

Yn 么l Neil Ward, prif weithredwr Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Penybont sy'n rhedeg academi drwyddedig, mae "tuedd gynyddol" lle mae hyfforddwyr preifat yn galw eu hunain yn academ茂au heb fod 芒 thrwydded.

Mae'n annog rhieni i ofyn mwy o gwestiynau am y bobl sy'n rhedeg y grwpiau - "pwy ydyn nhw ac ydyn nhw'n gymwys".

Mae'n awgrymu y dylai rhieni "ofyn am gymwysterau hyfforddi sylfaenol".

"Holwch faint o hyfforddiant ac amser cyswllt fydd chwaraewyr yn ei dderbyn, gweithdrefnau diogelwch, hyfforddiant cymorth cyntaf, adborth a chynlluniau datblygu unigol - mae canllawiau eitha' penodol.

"Be' sy'n bwysig yw bod rhieni'n sicrhau eu hunain am safon y ddarpariaeth trwy ymchwilio i bwy sy'n darparu'r hyfforddiant ac a ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio gan y corff llywodraethu."

Mae academ茂au trwyddedig yng Nghymru yn derbyn nawdd gan UEFA, trwy law CBDC.

Maen nhw'n codi ffi ar rieni - yn wahanol i academ茂au yn Lloegr sydd yn rhad ac am ddim.

"Yn Lloegr, mae'r gynghrair a'r clybiau yn derbyn mwy o arian felly dy'n nhw ddim yn codi ffi," meddai Mr Ward.

"Ond yng Nghymru ry'n ni'n codi ffi ry'n ni'n meddwl sy'n rhesymol i rieni o oddeutu 拢1.50 i 拢2.00 y sesiwn a dros 40 o wythnosau o hyfforddiant y flwyddyn.

"Mae'n fforddiadwy ac yn ein helpu ni i gyda rhai costau ac ry'n ni hefyd yn codi arian er mwyn cadw costau mor isel 芒 phosib."

Adolygu'r drefn

Mae'r drefn yn wahanol i ferched a bechgyn ac yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd.

Mae'r corff llywodraethu yn rhedeg academi yng ngogledd a de Cymru, yn darparu hyfforddiant i'r chwaraewyr mwyaf talentog rhwng 11 ac 17.

Mae 'na hefyd gyfleoedd i ferched i gael hyfforddiant ychwanegol trwy ganolfan ddatblygu CBDC - rhaglen benodol o gemau cystadleuol i ferched yn erbyn bechgyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

I Paul Kirton, rheolwr gyfarwyddwr Team Grassroots, sy'n cynrychioli'r g锚m amatur, mae'r cynnydd mewn academ茂au honedig ar draws Cymru a Lloegr yn bryder.

"Mae 'na ffrwydrad wedi bod mewn darparwyr hyfforddiant p锚l-droed sy'n defnyddio academi yn eu teitl ac mewn rhai achosion yn codi pedwar neu bum gwaith yn fwy na chlybiau llawr gwlad," meddai.

"Mae pobl yn meddwl eu bod nhw'n talu am rywbeth arbennig ond mewn gwirionedd, dyw e'n ddim gwahanol i glwb llawr gwlad."

Ychwanegodd y dylai'r enw academi ond gael ei ddefnyddio gan hyfforddwyr sydd wedi cael achrediad A, B neu C gan CBDC.

"Awgrym y gair yna yw ei fod e'n rhywbeth proffesiynol, tra gall y realiti fod yn rhywbeth hollol wahanol."

Mae CBDC yn dweud eu bod yn annog rhieni, gofalwyr a chlybiau p锚l-droed i sicrhau bod darparwyr heb gefnogaeth corff llywodraethu cenedlaethol wedi dilyn camau diogelu cyn cofrestru eu plant am eu gwasanaeth.