成人快手

Sut mae tafodiaith y Gymraeg wedi datblygu yn Y Wladfa?

  • Cyhoeddwyd
Plant Patagonia yn dawnsio mewn gwisg Gymreig
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er efallai nad ydy eu rhieni'n siarad Cymraeg mae rhai o blant Y Wladfa sy'n mynd i ysgolion dwyieithog yn gallu siarad yr iaith gyda'u neiniau a'u teidiau

Mae'r Gymraeg ym Mhatagonia wedi datblygu ei thafodieithau ei hun gyda dylanwad y Sbaeneg ar yr iaith yn dilyn patrwm tebyg i'r Saesneg yng Nghymru.

Dyna oedd yn cael ei drafod gan yr Athro Iwan Rees o Brifysgol Caerdydd ar

"Mae 'na gymaint o bethau diddorol am yr acen," meddai Dr Rees sydd wedi bod i'r Wladfa yn cyfweld amrywiaeth o siaradwyr Cymraeg yno.

"Y peth amlwg ydy dylanwad y Sbaeneg ond mae 'na gymysgedd o nodweddion gogleddol a deheuol yn ogystal 芒 nodweddion hollol unigryw i'r Wladfa yn rhan ohoni."

Mae pobl Patagonia yn defnyddio geiriau llanw Sbaeneg wrth siarad Cymraeg fel rydyn ni yng Nghymru yn defnyddio gair fel 'wel' neu 'ym' wrth siarad Cymraeg.

Fel 'wel' gennyn ni maen nhw'n defnyddio 'este' a 'bueno', meddai Dr Rees

Disgrifiad,

Dr Iwan Rees yn trafod clip o acen Gymraeg Cwm Hyfryd, Patagonia, ar Raglen Aled Hughes

Ystyr este mewn Sbaeneg yw 'hyn' ond mae'n cael ei ddefnyddio fel 'ym' wrth siarad. Mae bueno yn golygu 'da'.

Enghreifftau o ddylanwad tafodieithau Cymru ydy geiriau gogleddol fel 'clws' a 'fo' (nid 'fe') ac elfennau deheuol fel 'sefyll' i olygu 'aros'.

"Mae gynnoch chi ddylanwad pob ardal yng Nghymru - y gogledd, y gorllewin a'r de ddwyrain i gyd gan un siaradwr... ac mae dylanwad y Sbaeneg yn rhoi ryw gystrawen wahanol inni," meddai Iwan Rees.

Enghraifft arall meddai yw mai 'siarad drwy'r ff么n' wnawn nhw yn y Wladfa, nid 'siarad ar y ff么n' fel yng Nghymru. Dylanwad y Sbaeneg, por tel茅fono yw hyn.

Yr hen do, a'r newydd

Mae'r adnodd newydd yn cyflwyno tafodiaith gwahanol fathau o siaradwyr, yr hen do sy'n siarad y dafodiaith draddodiadol a hefyd pobl ifanc sy'n mynd i ysgolion dwyieithog, meddai Dr Rees.

"Er fod yr hen do yn siarad Cymraeg lliwgar, cyfoethog iawn, yn aml iawn dydyn nhw ddim wedi trosglwyddo'r Gymraeg i'r plant.

"Felly mae gennych chi fwlch. Ond be' sydd gennych chi hefyd ydy'r wyrion yn mynd i'r ysgolion dwyieithog ac felly maen nhw'n gallu ymarfer Cymraeg efo'u neiniau a'u teidiau ond dydi'r fam a'r tad ddim yn siarad," meddai.

"Mae gennych chi hefyd oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg yng Nghymru a dysgwyr yn yr ysgolion dwyieithog nad ydyn nhw efallai erioed wedi bod yng Nghymru ac felly heb fod dan ddylanwad tafodieithoedd Cymru."