成人快手

Ydy hi'n amser troi cefn ar wario 'hurt' y Nadolig?

  • Cyhoeddwyd

Does dim rhaid lladd eich hun i gael y Nadolig perffaith a does dim rhaid gwrando ar hysbysebu a hwrjo'r siopau mawr.

Dyna farn Angharad Tomos, awdur Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai, llyfr a gyhoeddwyd yn 2011 sy'n rhoi cyngor am fyw'n llai gwastraffus.

Felly wrth i'r siopau mawr wario biliynau ar hysbysebion Nadolig a theuluoedd yn 么l rhai arolygon, oes raid i ormod o bwdin Dolig ein tagu ni i gyd?

Ffynhonnell y llun, Angharad Tomos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Angharad Tomos yn adnabyddus hefyd fel awdur llyfrau plant Gwlad y Rwla

Ddaru mi roi cynnig arni unwaith, go iawn - optio allan o Dolig.

Eisiau gorffen nofel ro'n i, a dyma fi'n dianc am ddeufis i ben draw Iwerddon, a hynny dros y Nadolig. Roedd pobl yn ei weld o'n beth rhyfedd i'w wneud, ond ro'n i wrth fy modd.

Ro'n i wastad eisiau gwneud rhywbeth gwahanol dros yr 糯yl. Rywbeth cwbl wahanol, cofiwch chi - fatha peidio cymryd sylw ohono.

Ddaru o ddim gweithio. Cawl a gefais i ginio, a mins pei. Os nad ydych yn coginio, does fawr i'w wneud bore Dolig, a chithau ar eich pen eich hun mewn t欧 gwag.

Yn y p'nawn, es i am dro, ond roedd pawb yn edrych yn rhyfedd arnaf.

Sylweddolais mod i'n torri pob rheol gymdeithasol - dewis bod ar fy mhen fy hun ar ddydd Dolig. Wna i mohono fo eto - a doedd o ddim yn lot o hwyl, rhaid cyfaddef.

Ond does dim rhaid lladd eich hun yn ceisio cael Y Dolig Perffaith - rhywbeth rhwng y ddau eithaf yma fyddai'n siwtio y rhan fwyaf ohonom.

'Steddwch i lawr tua chanol Tachwedd a gwnewch restr o bethau rydych chi'n ei fwynhau am Dolig.

Dyna fo - dyna'r cwbl sy'n rhaid i'w gyflawni - dim mwy.

Dydw i ddim yn rhoi anrhegion Dolig bellach, ar wah芒n i un neu ddau. Mae yna hen ddigon o 'nialwch yn hedfan o gwmpas, ac unwaith rydych chi wedi deud wrth bawb, maen nhw'n iawn, ac yn tueddu i gytuno - er fod llawer yn dal i roi anrhegion, am eu bod nhw eisiau.

Beth sy'n mynd dan eich croen yr adeg yma o'r 糯yl? Canolfannau siopa sy'n dechrau gwerthu rwtsh Dolig ym mis Medi? Cadwch yn glir ohonynt. Y difrod mae papur pacio a selot锚p yn ei achosi i'r blaned? Lapiwch bopeth mewn papur newydd neu dudalennau magas卯ns, a'u clymu efo ruban. Mi ges i ddifyrrwch mawr yn gwneud hynny rhyw flwyddyn.

Cardiau - does gan rai bobl ddim 'mynadd efo'r rhain. Peidiwch 芒'u hanfon. Dim ond rhyw hen arferiad ers Oes Fictoria ydyw.

Fy hun, dwi'n lecio cardiau Dolig, felly mi fyddaf yn eu gwneud, ac yn mwynhau'r dasg. Os ydych chi eisiau rhoi i elusen, mae prynu eu cardiau Dolig yn ffordd ymarferol o gefnogi'r achos. Ni sy'n gwneud y rheolau.

Y Bwyd? Dwi yn cytuno fod angen mwy na chawl a mins pei, ar 么l fy mhrofiad Gwyddelig, ond mater i'r sawl sy'n coginio yw faint o waith mae'n fodlon ei wneud.

Gwnewch yn si诺r fod gan bawb ei gyfrifoldeb, fel bod y gwaith ddim yn disgyn ar ysgwyddau un. Ac os ydi'r twrci neu'r mins peis yn llosgi, dydi o ddim diwedd y byd.

Mae rhai yn dweud mai'r cyfan efo'i gilydd sydd yn ormod - y presantau, y lapio a mynd i weld pobl, a hynny i gyd cyn y 25ain. Mae'n werth cofio fod pobl o gwmpas weddill y flwyddyn, a bod Ionawr yn gyfnod go unig. Gweld pobl yn ystod y cyfnodau llwm sy'n bwysig, nid trio ffitio popeth i mewn cyn Dolig.

Wedi'r cwbl, beth ydi eich atgofion cl锚n o'r Dolig? Hud Si么n Corn? Mynd am dro i d欧 Nain, cyfaredd Cyngerdd Dolig, canu carolau, cwmni perthnasau o bell...

Ffynhonnell y llun, Angharad Tomos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ni sy'n gwneud y rheolau felly os ydy hi'n well gennych chi gael Nadolig syml, ewch amdani

Yn aml iawn, y gwmn茂aeth ydi'r peth pwysig. Os ydi amser ac amynedd yn brin, rhowch flaenoriaeth i'r pethau sy'n bwysig i chi. Wfft i'r gweddill.

Mae yna fwy a mwy o bobl yn teimlo fod cwmn茂au mawr wedi herwgipio'r Dolig, ac mae'r pwysau ar wario arian a chael Dolig Magas卯n yn gwbl hurt. Diolch byth, mi fedrwn droi cefn ar y cwbl, a gwneud beth ddymunwn ni o'r 糯yl.

G诺yl i ddathlu cariad ydyw, a dydi hwnnw ddim yn cael ei fesur mewn arian, diolch byth.

Beth yw barn Hedydd, mab 14 oed Angharad, am y Nadolig?

Yn bersonol dwi'n hoffi'r Nadolig yn fawr iawn ac mae'r rhesymau pam dwi mor hoff o'r Nadolig wedi newid dros y blynyddoedd.

Pan oeddwn i'n ifanc presantau, Si么n Corn a'r maint peryglus o ginio Dolig o'n i'n ei fwyta bob blwyddyn oedd yn gwneud y Nadolig yn arbennig i mi.

Ond erbyn hyn, dwi'n 14 ac mae'r pethau yna dal yn anhygoel ond mae'r ystyr a'r holl deimlad o Nadolig wedi newid yn llwyr.

Cwpwl o flynyddoedd yn 么l nes i fynd yn eithaf trist o gwmpas adeg y Nadolig. Fe sylwais fy mod i wedi tyfu fyny r诺an a bod y Nadolig byth am fod yr un peth byth eto. Roedd hynna'n wir wrth gwrs, ond nid yn y ffordd ddrwg o'n i'n meddwl amdano. Ro'n i'n actio'n hapus ond roedd yr hud wedi mynd a bob dim o'r Nadolig yn teimlo'n llai a sobor iawn y flwyddyn yna.

Ond, erbyn hyn dwi wedi ffeindio ystyr newydd, os nad gwell i fy Nadolig i.

Tra'n sgwennu hwn dwi'n gwrando ar ryw playlist o'r enw 'Christmas Peaceful Piano'. Ac mae hyn yn dangos i raddau be ydi'r Nadolig dyddiau yma i fi.

Mae Nadolig yn amser distaw, heddychlon. Mae'n amser lle mae pawb yn dod at ei gilydd, am unwaith bob blwyddyn does yna ddim ffraeo, does yna ddim newyddion, does yna ddim byd heblaw'r cariad distaw a pur yn gorwedd fel haen o niwl o amgylch y byd. Dyna be ydi'r Nadolig i mi.