Llywodraeth y DU yn trin Cymru 'fel trefedigaeth' o hyd
- Cyhoeddwyd
Wrth i ASau drafod Mesur Ymadael yr Undeb Ewropeaidd yn San Steffan, mae'r Arglwydd Elystan Morgan wedi rhybuddio bod Cymru'n cael ei thrin "fel trefedigaeth" o hyd.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen O'r Senedd, fe wnaeth yr Arglwydd Morgan feirniadu bwriad Llywodraeth y DU i gadw'r pwerau fydd yn dychwelyd o Frwsel yn Llundain yn y lle cyntaf.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud mai dros dro'n unig y bydd hynny, ac y bydd unrhyw bwerau sy'n ymwneud 芒 meysydd datganoledig yn cael eu trosglwyddo maes o law i Gaerdydd, Caeredin a Belfast.
Ond mae gan yr Arglwydd Morgan ei amheuon.
"Fe addawodd y llywodraeth y byddai'r hawliau yna'n dod yn 么l i gyd i Ogledd Iwerddon, i'r Alban ac i Gymru. Dim o'r fath beth," meddai.
"Mae datganoli wedi cael ei dorri drwodd yn gyfan gwbl.
"Maen nhw wedi dweud anwiredd hollol wynebgaled."
Yn y gorffennol mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o ddefnyddio'r Mesur i geisio cipio grym.
Ond roedd ei d么n yn fwy cadarnhaol yn dilyn cyfarfod diweddar gyda dirprwy Theresa May, Damian Green - er bod ganddo bryderon o hyd.
"Mae [Prif Weinidog yr Alban] Nicola Sturgeon a Carwyn Jones wedi bod yn disgrifio hyn fel powergrab, ac maen nhw am fisoedd wedi bod yn ceisio cyfiawnhau hynny i'r llythyren," meddai'r Arglwydd Morgan.
"Os wnawn nhw nawr ddangos rhywfaint bach o liniaru ar hyn, fyddai ddim yn hapus o gwbl."
Dywedodd hefyd bod Llywodraeth y DU yn "ein trin ni fel petaen ni'n drefedigaeth o hyd".
"Mae'r hen cobwebs yna o imperialaeth yn bodoli," meddai.
Mwy ar O'r Senedd am 22:00 nos Fawrth 14 Tachwedd ar S4C. Bydd hefyd modd gwylio'r rhaglen ar 成人快手 iPlayer.