成人快手

Ymdrechion i gynyddu'r wiwer goch yng Nghlocaenog

  • Cyhoeddwyd
wiwer goch

Mae gwirfoddolwyr mewn coedwig yn Sir Ddinbych yn rhan o brosiect i geisio cynyddu niferoedd y gwiwerod coch yno.

Ar wahan i rai ardaloedd ar Ynys M么n ac yng Ngheredigion, mae'r wiwer goch gynhenid fwy neu lai wedi diflannu o'r tir.

Ond yn dilyn ymdrechion cadwraethol i geisio rheoli'r wiwer lwyd Americanaidd, mae'n ymddangos bod niferoedd gwiwerod coch yn dechrau cynyddu eto.

Mae gwirfoddolwyr yng Nghoedwig Clocaenog ger Rhuthun yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn ceisio darganfod faint yn union o wiwerod coch sydd wedi ymgartrefu yno.

"Rydyn ni'n gwybod mai ychydig iawn o'r creaduriaid sydd yna", meddai'r ceidwaid, Becky Clews-Roberts.

"Mae gyda ni gamerau, ond dim ond nodi presenoldeb-absenoldeb y maen nhw.

"Nod y prosiect yw atal unrhyw ostyngiad pellach a gweld y niferoedd yn cynyddu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gosod camerau yng allu cofnodi presenoldeb wiwerod coch ond ddim eu niferoedd

Ychwanegodd eu bod yn rheoli'r cynefin, yn darparu'r bwydydd iawn ar gyfer gwiwerod coch.

Denu twristiaid

Tra bod gwirfoddolwyr yn gallu dysgu o lwyddiant prosiectau ar Ynys M么n a Choedwig Tywi ger Tregaron, maen nhw'n sylweddoli na fydd pethau'n digwydd dros nos.

Fodd bynnag, yn 么l Sarah Jones, sy'n dywysydd twristaidd bathodyn glas yn y sir, mae yna botensial mawr i ddenu twristiaid.

"Dyma un maes a fyddai o ddiddordeb i lawer o bobl, nid yn y dyfodol o reidrwydd, ond nawr, gan fod pobl yn hoffi gweld beth sy'n digwydd.

"Fel plentyn yma yn Sir Ddinbych, dwi'n cofio eu gweld nhw bob diwrnod yn yr ardd.

"Fe fyddwn wrth fy modd yn gweld hynny'n digwydd eto."