成人快手

Ras yr Wyddfa yn boblogaidd

  • Cyhoeddwyd
David Magnini
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Davide Magnini yn ennill Ras yr Wyddfa

Mae ras yr Wyddfa yn hynod boblogaidd ac yn golygu cymaint i ardal Lanberis, yn 么l y trefnwyr.

Yr Eidalwr Davide Magnini oedd yn fuddugol eleni a daeth Chris Farrell o d卯m Lloegr yn ail.

Ddydd Sadwrn cafodd y 42fed ras ei chynnal ac y mae'n cael ei disgrifio fel un o'r rasys mynydd anoddaf ym Mhrydain. Mae'n denu dros 600 o redwyr.

Meddai'r trefnwyr: "Ystyrir y ras hon yn un o'r rhai mwyaf ym myd rhedeg mynydd, ac mae'n denu rhai o'r goreuon yn Ewrop. Mae wedi tyfu dros y pedwar degawd a aeth heibio, i fod yn rhywbeth i'w gyflawni unwaith mewn oes i sawl un.

"Mae sawl un yn meddwl am y peth ond ychydig sy'n cyrraedd y nod.

"Agorwyd y drws cystadlu ar y cyntaf o Fawrth ac ymhen tridiau roedd 650 o'r rhedwyr wedi talu am gystadlu a dim mwy o le i neb arall."

Yn 么l arbenigwyr, t卯m Lloegr yw'r ffefrynnau i ennill yn 2017. Yn ychwanegol i unigolion yn rhedeg y ras, mae timau o Gymru, Lloegr, Yr Alban, De a Gogledd Iwerddon a'r Eidal yn herio ei gilydd am ddeg milltir anoddaf y ras.

'Yn fwy na jest ras'

Dywedodd Stephen Edwards, trefnydd y ras: "Mae'r ras yn fwy na jest ras. Mae'r bwrlwm yn Llanberis yn arbennig iawn. Rhaid bod yno i'w deimlo.

"Mae'r ras yn golygu cymaint i'r ardal. Mae yna falchder mawr yn y ras a'r darlun mae'n ei rhoi o'r pentref i filoedd o ymwelwyr sydd yma dros y cyfnod. I feddwl faint mae hi wedi tyfu o'r dechrau digon tila yn 1976 - mae'n anodd coelio."