成人快手

'Angen ailystyried' herio gyrwyr sy'n defnyddio llefydd anabl

  • Cyhoeddwyd
Parcio

Mae elusen yn gofyn i bobl sy'n herio unigolion am ddefnyddio llefydd parcio ar gyfer yr anabl i feddwl ddwywaith cyn gwneud hynny.

Neges Anabledd Cymru yw bod anableddau llawer o bobl yn rhai anweledig a'u bod yn wynebu digon o rwystrau, heb orfod cyfiawnhau i bobl ddieithr pam eu bod angen bathodynnau glas.

Mae rhai unigolion awtistig angen parcio mewn llefydd hwylus oherwydd ffactorau'n ymwneud 芒 diogelwch.

'Digon o rwystrau yn barod'

Dywedodd llefarydd wrth raglen y Post Cyntaf, Radio Cymru: "Dydi'r cyflyrau hyn ddim yn amlwg yn aml.

"Mae'n eithriadol o rwystredig ac yn achosi gofid yn aml i bobl orfod dygymod 芒 chael eu herio wrth geisio parcio.

"Mae 'na ddigon o rwystrau o ran byw eu bywydau fel ag y mae."

Mae Francesca Antoniazzi, sy'n 26 ac o Lanfairpwll ar Ynys M么n, mewn cadair olwyn ers torri ei chefn fis Mai'r llynedd ar 么l syrthio 10 troedfedd a glanio ar lawr concrid.

Ym marn arbenigwyr meddygol, mae hi'n annhebygol o allu cerdded eto.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ysgrifennodd Francesca Antoniazzi am ei phrofiadau negyddol ar Facebook ac mae'n dweud bod nifer wedi cysylltu wedi cael yr un math o brofiad

Mae ei char wedi cael ei addasu er mwyn iddi allu gyrru ei hun, ac mae ei chadair olwyn yn ddigon ysgafn iddi ei roi i mewn ac allan o'r cerbyd heb help ail berson.

Fe ddychwelodd i'w gwaith yn swyddfa Menter M么n ddechrau'r flwyddyn.

Ond cafodd ei synnu yn ddiweddar gan agwedd dau berson yn ei gwylio'n parcio'i char mewn lle ar gyfer yr anabl.

"Wnaethon nhw ddechrau ysgwyd eu pennau - doedden nhw ddim yn meddwl fy mod yn anabl o gwbl.

Pobl ddim yn deall y sefyllfa

"Wedyn wnes i dynnu'r gadair olwyn o'r car a doedden nhw ddim yn gwybod lle i sb茂o," meddai.

Pobol h欧n yn aml sy'n amlygu dicter tuag ati, meddai, a hynny, mae hi'n amau, am ei bod yn berson ifanc ac yn ymddangos yn holliach wrth eistedd yn ei char.

"Maen nhw'n gweld rhywun ifanc a falle'n meddwl 'mod i'n parcio yno achos 'mod i'n ddiog.

"I ddechrau, fyddai'n teimlo'n ddig am y peth, ond ar y llaw arall, tydi'r bobol yma ddim i wybod bod 'na fwy i'r sefyllfa nag maen nhw'n ei weld."

Pan ysgrifennodd Francesca am ei phrofiad ar wefan Facebook, fe atebodd nifer o unigolion eraill, sydd hefyd ag anableddau gwahanol, eu bod nhw hefyd wedi cael profiadau tebyg.