Diabetes math 2 wedi treblu mewn 20 mlynedd medd ymchwil

Ffynhonnell y llun, PA

Mae nifer y bobl yn y DU sydd 芒 diabetes math 2 wedi treblu dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn 么l gwaith ymchwil dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Mae'r canfyddiadau newydd yn seiliedig ar ddata gafodd ei gasglu gan wasanaethau meddygon teulu yn y DU rhwng 1991 a 2014.

Maen nhw'n dangos cynnydd amlwg mewn disgwyliad oes i bobl sy'n dioddef o'r clefyd, gan esbonio'r cynnydd hwn yn rhannol.

Gwelliannau mewn diagnosis a chynnydd yn nifer y bobl sy'n ordew yw rhai o'r rhesymau sy'n cael eu cysylltu 芒'r cynnydd.

Rhwng 1993 a 2010, cynyddodd cyfran y bobl ordew yn y DU o 13% i 26% i ddynion, ac o 16% i 26% i fenywod.

'Dal i gynyddu'

Dywedodd yr Athro Craig Currie o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae nifer y bobl sydd 芒 diabetes math 2 yn y DU wedi cynyddu o 700,000 i tua 2.8m dros y ddau ddegawd diwethaf, ac mae'n dal i gynyddu.

"Rydym hefyd yn gweld disgwyliad oes hirach i bobl sy'n dioddef o'r clefyd.

"Gall hyn fod oherwydd diagnosis cynt o'r clefyd, yn ogystal 芒 defnyddio cyffuriau fel tabledi pwysedd gwaed a statinau i reoli colesterol yn y gwaed."

Casgliadau eraill:

  • Mae diabetes math 2 yn dod yn fwy cyffredin wrth i bobl fynd yn h欧n;
  • Mae nifer yr achosion yn uwch mewn dynion na menywod dros 40 oed yn gyffredinol;
  • Mae nifer yr achosion yn debyg rhwng dynion a menywod dan 40 oed.

Mae tua 4.5m o bobl yn y DU yn dioddef o ddiabetes, a diabetes math 2 sydd gan dros 90% ohonynt.

Mae'r math hwn yn datblygu pan nad yw'r celloedd sy'n cynhyrchu inswlin yn cynhyrchu digon ohono, neu pan nad yw'r inswlin sy'n cael ei gynhyrchu yn gweithio'n iawn.

Deiet iach a gwneud mwy o ymarfer corff yw'r driniaeth ar ei gyfer, ond yn ogystal 芒 hyn, yn aml, mae angen meddyginiaeth a/neu inswlin i'w drin.