Gordewdra: GIG 'methu goroesi' medd arbenigwr
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr mewn gofal gordewdra wedi dweud na fydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ei ffurf bresennol, yn goroesi wrth i gyfraddau gordewdra gynyddu.
Dywedodd Dr Zoe Harcombe wrth y Post Cyntaf ar 成人快手 Radio Cymru bod ganddi bryderon am y costau a straen ychwanegol ar y GIG.
Mae un AC wedi galw am ddeddfu i ddelio gyda'r sefyllfa.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai pobl ddilyn cyngor dietegol sy'n argymell diet cytbwys.
'Hanner yn rhy dew'
Dywedodd Dr Harcombe: "Dwi wir yn credu na fydd y GIG fel yr ydym yn ei adnabod heddiw yn bodoli.
"Ni all fod yr un peth mewn 10 mlynedd, 20, 30 neu 40 mlynedd."
Dywedodd hefyd bod y costau ychwanegol o drin gordewdra a diabetes yn rhoi straen mawr ar y gwasanaeth iechyd.
Yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, mae staff wedi addasu gwelyau a chloriannau i ddelio gyda'r nifer o gleifion sy'n pwyso dros 20 st么n.
Dywedodd y meddyg teulu Dr Dai Lloyd, sydd hefyd yn AC Plaid Cymru, bod angen deddfu i ddelio gyda'r sefyllfa, a newid y cyngor dietegol.
"Mae hanner holl oedolion Cymru ar hyn o bryd, yn syml, yn rhy dew," meddai.
Ychwanegodd bod hynny'n cynnwys deall bod siwgr yn gwneud niwed i'r corff, gan gynnwys carbohydradau - sy'n troi i siwgr yn y corff.
'Nifer o fesurau ar waith'
Wrth ymateb, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod angen i bobl ddilyn cyngor dietegol sy'n cynnwys bwyta carbohydradau fel rhan o ddiet cytbwys.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio "ar sail y galw sydd ar hyn o bryd a'r galw sy'n cael ei ragweld".
"Mae taclo gordewdra yn un o'n blaenoriaethau, ond er mwyn i hyn lwyddo mae angen gweithredu gan eraill mewn cymdeithas hefyd.
"Mae gennym ni nifer o fesurau ar waith i helpu pobl i wneud newidiadau iach - er enghraifft gwaith gydag ysgolion a chyflogwyr, safonau maeth, a deddfwriaeth ar deithio llesol."