Diabetes: Cymru gyda'r ffigwr uchaf ym Mhrydain
- Cyhoeddwyd
Mae'r nifer o bobl sydd yn byw gyda diabetes yn parhau i gynyddu medd yr elusen Diabetes UK Cymru.
Yn 么l cyfarwyddwr yr elusen, Dai Williams mae gan dros 183,000 o bobl y cyflwr yng Nghymru ar hyn o bryd, a Chymru sydd 芒'r ffigwr uchaf ym Mhrydain.
Mae 7.1% o boblogaeth Cymru sydd dros 17 oed yn byw gyda'r cyflwr. Yn 么l yr elusen mae'n hyn yn 'argyfwng'.
Mae'r elusen hefyd yn pryderu bod yna ddal diffyg dealltwriaeth yngl欧n 芒'r salwch ac maen nhw'n awyddus i godi ymwybyddiaeth a chwalu unrhyw gamsyniadau.
Mae gwaith ymchwil gan yr elusen ar draws Prydain wedi dangos bod 53% o bobl wnaethon nhw holi ddim yn gwybod bod cymhlethdodau fel trawiad ar y galon neu str么c yn gallu digwydd os nad ydy'r unigolyn yn edrych ar 么l ei hun.
'Diffyg dealltwriaeth'
Fe wnaethon nhw holi sampl o 1,491 o bobl dros 15 oed ac mi oedd un ymhob tri hefyd yn meddwl bod cysylltiad rhwng diabetes math 1 a gor-bwysau. Ond dyw hyn ddim yn wir ar gyfer math 1 o'r afiechyd.
Dywedodd Dai Williams: "Yn ystod Wythnos Diabetes mi ydyn ni yn dweud beth yw'r ffeithiau ac yn canolbwyntio ar y realiti o fyw gyda'r afiechyd. Mae yna dal ddiffyg dealltwriaeth yngl欧n 芒 pha mor ddifrifol yw diabetes ac mae hyn yn ein pryderu ni.
"Dyma'r nifer uchaf erioed o bobl sydd yn byw gyda diabetes yng Nghymru, dros 183,000. Mae hynny 6,000 yn fwy o bobl na'r nifer yn ystod Wythnos Diabetes llynedd sydd yn dangos maint yr argyfwng."
Mae'r elusen hefyd yn awyddus i'r cyhoedd wybod bod modd byw bywyd cyflawn ac yn dweud bod yr wythnos yn gyfle i rannu straeon pobl sydd yn gwneud hyn.