成人快手

'Gellid perswadio pob plaid i gael mwy o ACau'

  • Cyhoeddwyd
AC yn y siambr

Mae'n bosib y gellid perswadio pob plaid ym Mae Caerdydd bod angen cynyddu nifer Aelodau'r Cynulliad, yn 么l academydd gwleidyddol blaenllaw.

Fe ddaw sylwadau yr Athro Roger Scully wrth i Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd a Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru ddweud bod angen newidiadau i'r system etholiadol petai mwy o Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol.

Mae'r adroddiad - Ail-lunio'r Senedd - yn argymell cael 87 aelod ac yn cynnig dau ddewis i'w hethol.

Mae galw wedi bod ers tro i gael mwy o Aelodau Cynulliad i ddelio gyda'r gwaith.

Yn 么l y llywydd Elin Jones, mae yna ormod o waith i 60. Mae aelodau cynulliad blaenllaw o gomisiwn y cynulliad wedi cytuno i edrych ymhellach ar y mater.

Tri AC i bob etholaeth

Mae'r adroddiad yn cyflwyno dewisiadau sy'n debygol o gael cefnogaeth pob plaid, yn enwedig gan nad yw'r argymhellion yn cael effaith andwyol ar y Blaid Lafur, y blaid sydd 芒 mwyaf o seddi.

O dan y drefn sy'n cael ei hargymell, byddai gan bob etholaeth dri AC, fyddai'n cael eu hethol drwy'r system gynrychiolaeth gyfrannol (proportional representation).

Mae'r pwerau sy'n ymwneud ag etholiadau ar fin cael eu datganoli ym Mesur Cymru, ond er mwyn newid y system bresennol mi fyddai'n rhaid cael cefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau'r Cynulliad.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l yr Athro Roger Scully mae modd cael cytundeb trawsbleidiol

Yn 么l Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae'n bosib felly y bydd yr argymhellion yn cael s锚l bendith trawsbleidiol.

"Mae hi si诺r o fod yn bosib," meddai, "i gael cefnogaeth Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ac o bosib UKIP, wedi i ni drafod gyda nhw, er bod UKIP yn gwrthwynebu cael mwy o aelodau yn gyhoeddus."

Argymhellion yr Adroddiad

  • Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy - lle mae pleidleiswyr yn dewis ymgeiswyr ar sail hoffter.

  • Rhestr Agored - lle mae'r pleidiau yn cynnig rhestrau o ymgeiswyr y gall pleidleiswyr ddewis ohonynt ond mae pleidleiswyr hefyd yn gallu pleidleisio dros unigolyn.

Byddai'r system etholiadol newydd yn debygol o gynhyrchu canlyniadau mor gyfrannol 芒'r system bresennol.

Argymhellir 29 etholaeth oherwydd dyna mae'n debyg faint o Aelodau Seneddol fydd yng Nghymru wedi i'r ddeddfwriaeth newydd yngl欧n 芒 chyfartalu etholaethau ASau ddod i rym.

Dywedodd Mr Scully: "Nid oes system berffaith sy'n bodloni pob egwyddor yn llawn, a hyderir y bydd yr argymhellion yn darganfod y cydbwysedd iawn.

"Rydym yn gwybod y bydd y pleidiau yn dod at hwn o safbwyntiau gwahanol, felly gall yr adroddiad gael ei ddefnyddio fel sail ddifrifol i ddarganfod tir cyffredin ar gyfer trafodaethau i gytuno ar sut i symud democratiaeth Cymru yn ei flaen."

Dywedodd cyd-awdur yr adroddiad, Dr Owain ap Gareth, sy'n Swyddog Ymgyrchoedd ac Ymchwil Cymru i'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol: "Gan fod cymaint bellach yn cydnabod yr angen am Gynulliad sy'n fwy effeithiol ac atebol, mae Ail-lunio'r Senedd yn symud o'r 'pam' at y 'sut'.

"Mae'n edrych ar ffyrdd ymarferol i gyflawni Cynulliad democrataidd mwy o faint, sy'n gallu wynebu heriau a chyfleoedd newydd a fydd yn codi drwy Mesur Cymru ac yn dilyn Brexit."

'Ymchwilio ymhellach'

Yn croesawu'r adroddiad, dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones: "Yn gynharach y mis hwn, amlinellais uchelgeisiau Comisiwn y Cynulliad o ran capasiti'r Cynulliad yn y dyfodol.

"Cytunodd y comisiwn fod yr achos o blaid cael Cynulliad mwy o faint yn fwy grymus nag erioed o'r blaen, a chytunodd y dylid bwrw ymlaen 芒'r gwaith i ymchwilio ymhellach i'r materion perthnasol ar sail drawsbleidiol, gan fanteisio ar gyngor arbenigol, niwtral.

"Yn amodol ar basio Bil Cymru, sydd ar hyn o bryd gerbron Senedd y DU, bydd y p诺er i ddeddfu i gynyddu maint y sefydliad ac i ddiwygio'r system etholiadol yn cael ei ddatganoli i'r Cynulliad.

"Cytunodd y Comisiwn yn unfrydol y bydd datblygu'r gwaith hwn, gan weithredu ar ran y sefydliad ac er budd democratiaeth yng Nghymru."