³ÉÈË¿ìÊÖ

Grammy i Amy

  • Cyhoeddwyd
Amy Wadge

Union flwyddyn yn ôl, a hithau ar ei ffordd i seremoni wobrwyo'r Baftas, bu Cymru Fyw yn siarad ag Amy Wadge am y gân sydd wedi newid ei bywyd.

Yn seremoni'r Grammys yn Los Angeles ar Chwefror 15, enillodd Amy a'r cyfansoddwr Ed Sheeran wobr 'Cân y Flwyddyn' am y sengl 'Thinking Out Loud'.

Yn naw mlwydd oed dechreuodd Amy, o Bontypridd, gyfansoddi ei chaneuon ei hun ar biano'r teulu. Pan yn 11, prynodd ei rhieni gitâr iddi o siop ail law a dysgodd Amy sut i'w chwarae drwy wrando ar albwm cyntaf Tracy Chapman.

Tra'r oedd hi yn yr ysgol roedd hi'n gigio'n rheolaidd a chafodd ei harwyddo i label recordio a rhyddhau ei sengl gyntaf yn 16. Ddwy flynedd yn ôl, fe gyd-gyfansoddodd 'Thinking Out Loud' gyda'r canwr Ed Sheeran, cân sydd bellach wedi ennill sawl gwobr iddynt a sylw byd eang.

Sut a phryd nes di gyfarfod Ed Sheeran?

Gwnes i gyfarfod Ed drwy fy nghyhoeddwyr - roedd e'n 17, heb ei arwyddo ag unrhyw label ac yn ysgrifennu gyda nifer o bobl, ac fe gafodd ei anfon ata' i i Gymru. Roedd y sesiwn ysgrifennu gynta' 'na yn anhygoel, ac ysgrifennon ni 9 cân mewn tridiau - 5 o'r rheiny oedd ar yr EP 'Songs I Wrote With Amy'. Yn ffodus, rydyn ni wedi gweithio gyda'n gilydd byth ers hynny.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi ar y ffordd i'r Brits!"

Rwyt ti hefyd yn perfformio - pa mor anodd yw hi i beidio cadw dy ganeuon i ti dy hun?

Does gen i ddim problem o gwbl gyda rhoi fy nghaneuon i bobl eraill. Mae nhw'n waith ar y cyd beth bynnag, felly tydw i byth yn eu hysgrifennu yn meddwl eu bod nhw ar fy nghyfer i. Mae'r artist rydw i'n gweithio gydag e wastad yn y 'stafell, felly maen nhw'n dueddol o fod yn eitha' penodol ar gyfer y person yna.

Hefyd, i mi, mae'r amser yna wedi hen basio. Rydw i dal yn perfformio ac wrth fy modd yn gwneud, ond does gen i ddim uchelgais i fod yn gantores bellach - ar gyfansoddi dwi'n canolbwyntio nawr, a dwi wir yn mwynhau.

Pan wnes di ysgrifennu 'Thinking Out Loud', oeddet ti'n gwybod ei bod hi'n gân arbennig?

Cafodd 'Thinking Out Loud' ei hysgrifennu mewn rhyw 20 munud yng nghartref Ed. Roedd yr albwm wedi gorffen ac fe chwaraeodd e i mi. Aethon ni ati i gyfansoddi'r gân, ac roedd Ed yn dweud a dweud y dylai fod ar yr albwm newydd - roedden ni'n dau wedi gwirioni â hi. Ond doedd hi ddim tan iddo'i recordio'r diwrnod wedyn y dechreuodd pawb arall ymateb iddi, ac fe gafodd ei chynnwys ar yr albwm.

[Aeth yr albwm ymlaen i ennill Albwm y Flwyddyn yng Ngwobrau BRITs 2015]

Rwyt ti wedi bod yn llwyddiannus ers dipyn o flynyddoedd erbyn hyn, a'r gân hon wedi mynd â'r llwyddiant i lefel uwch?

Mae'r gân wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl. Mae pobl wastad yn dweud ei bod hi ond yn cymryd un gân i wneud hynny, ond wnes i fyth ddychmygu y byddai mor fawr ag ydi hi - mae hi wedi gwerthu bron i 3 miliwn yn yr Unol Daleithiau, heb sôn am y DU a gweddill y byd.

Pan ganodd Ed hi yn y Grammys (yn 2015), roedd e'n gwireddu breuddwyd. Rydw i wedi cael tomen o waith ac rydw i'n ysgrifennu gydag ambell i berson anhygoel, felly mae popeth wedi newid, bron â bod dros nos.

 

Es di i seremoni'r Grammys eleni, beth oedd y foment fwya' swrreal?

[Yn 2015] es i allan ar gyfer wythnos y Grammys i gael cyfarfodydd, felly es i i barti Grammys Warner, ond nid i'r seremoni ei hun. Es i i'r noson deyrnged i Stevie Wonder gyda theulu Ed - fe oedd yn agor y sioe gyda Beyoncé. Roedd y rhestr o artistiaid oedd yn perfformio yn anhygoel. Ro'n i'n eistedd fodfeddi oddi wrth Steve a Beyoncé a Jay Z, ac ar un adeg roedd rhain i mi binsio fy hun.

Roedd yr holl wythnos mor swrreal, gan fod y gân mor enfawr yno. Ges i gyfarfod gymaint o artistiaid ardderchog ac roedd e'n brofiad arbennig iawn.

[Roedd Amy Wadge yn bresennol yn seremoni'r Grammys yn Chwefror 2016 a Stevie Wonder gyflwynodd wobr 'Cân y Flwyddyn' iddi hi ac Ed Sheeran.]

Disgrifiad o’r llun,

Ed Sheeran ac Amy Wadge yn seremoni'r Grammys yn 2016. Stevie Wonder a gyflwynodd wobr 'Cân y Flwyddyn' iddyn nhw.

Oes 'na gynlluniau i ysgrifennu unrhyw ganeuon eraill ar gyfer Ed?

Bydd Ed a fi'n cyfansoddi eto, rwy'n siŵr - gwnes i hefyd gyfansoddi 'Even My Dad Does Sometimes' gydag e, sydd ar fersiwn deluxe yr albwm 'x'. Mae e mor ofnadwy o brysur ar hyn o bryd, ond fel y tro diwethaf, pan fydd e'n gofyn i mi fynd ato i ysgrifennu, bydda i'n gollwng popeth ac yn mynd yno ar fy union!

Disgrifiad o’r llun,

Amy Wadge gydag Ed Sheeran yn ei ystafell newid wedi ei berfformiad ar X Factor

Sut fath o berson wyt ti: person sydd am brynu tÅ· a char mawr neu rywun sydd am gynilo ei harian?

Dwi wrth fy modd gyda dillad ac esgidiau, ond heblaw am hynny, fy nheulu yw popeth, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n saff a hapus. Mae gen i ddwy ferch fach ac rydw i eisiau sicrhau fod ganddyn nhw rywbeth ar gyfer y dyfodol.

Mae hynny'n golygu mwy i mi nag unrhyw beth. Ac mae'n siŵr ei bod hi'n hen bryd i mi edrych ar ôl fy ngŵr, gan ei fod wedi bod mor gefnogol ohona i dros y blynyddoedd.