Cymeradwyo pencadlys newydd 成人快手 Cymru yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i adeiladu pencadlys newydd 成人快手 Cymru yng nghanol Caerdydd wedi eu cymeradwyo.
Bydd y gwaith yn cychwyn ar 7 Ragfyr ac mae disgwyl i bron i 1,200 o staff sy'n gweithio ar y safleoedd presennol yn Llandaf symud i'r ganolfan newydd yn 2019.
Mae'r gorfforaeth wedi arwyddo cytundeb gyda Rightacres, y cwmni sy'n datblygu'r adeilad newydd ac ardal ehangach y Sgw芒r Canolog.
Cynulleidfaoedd
Dywedodd cyfarwyddwr 成人快手 Cymru, Rhodri Talfan Davies, bod y lleoliad yn gyfle i fod yn agosach at gynulleidfaoedd.
Bydd yr adeilad newydd yn 150,000 troedfedd sgw芒r - hanner maint y cyfleusterau presennol yn Llandaf.
Mae S4C hefyd yn bwriadu bod yn rhan o'r ganolfan newydd drwy symud ei hadnoddau darlledu yno, gan leihau costau darlledu'r ddau sefydliad.
Dyma ran o brosiect adfywio ehangach a fydd yn trawsnewid y Sgw芒r Canolog, gan gynnwys swyddfeydd, siopau a thrafnidiaeth.
Dywedodd Mr Talfan Davies y bydd y ganolfan ddarlledu newydd yn gosod 成人快手 Cymru "yng nghalon ein prifddinas - yn nes at ein cynulleidfaoedd a llawer o'n partneriaid".
Ychwanegodd: "Bydd hefyd yn sbarduno adfywiad llawer ehangach fydd yn helpu i drawsnewid Caerdydd.
"Mae 成人快手 Cymru yn cyffwrdd bywydau miliynau o bobl nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU a thu hwnt - felly rwyf wrth fy modd y bydd y buddsoddiad strategol allweddol hwn yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer ein dyfodol gyda hyder go iawn."
"Carreg filltir"
Croesawodd y Prif Weinidog y cyhoeddiad gan ei ddisgrifio fel "carreg filltir sylweddol i 成人快手 Cymru a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru".
Dywedodd Carwyn Jones: "Mae uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector yn wirioneddol fyd-eang wrth i ni barhau i gefnogi datblygiad talent, sgiliau ac arbenigedd creadigol yng Nghymru.
"Edrychwn ymlaen at weld effaith bositif a pharhaol y cyhoeddiad heddiw ar y sector gyffrous a llwyddiannus yma."
Dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: "Dyma newyddion gwych i Gaerdydd ac i gynlluniau'r Cyngor i adfywio'r rhan hon o'r ddinas."
Fe ddatgelodd y 成人快手 y bwriad i symud i adeilad newydd sbon y tu allan i orsaf drenau Caerdydd Canolog ym mis Mehefin 2014.