成人快手

Gleision: Yn ddieuog o bob cyhuddiad

  • Cyhoeddwyd
Malcolm Fyfield
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd cyn reolwr y pwll Malcolm Fyfield, a pherchnogion y lofa, MNS Mining Ltd yn ddieuog o ddynladdiad

Mae rheithgor yn Llys y Goron Abertawe wedi penderfynu bod Malcolm Fyfield yn ddieuog o ddynladdiad pedwar dyn yng nglofa'r Gleision ym mis Medi 2011.

Bu'r rheithgor yn ystyried am lai na dwy awr.

Mae cwmni MNS Mining, perchnogion y pwll, yn ddieuog o bedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

Roedd Mr Fyfield, 58, wedi gwadu dynladdiad Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Garry Jenkins, 39 a Philip Hill, 44 yn y pwll yng Nghilybebyll ger Pontardawe.

Roedd perchnogion y pwll, MNS Mining, wedi gwadu cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Garry Jenkins, 39, Philip Hill, 44, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62

'Cyllell i galon y gymuned'

Yn y dyddiau wedi'r drychineb, roedd yr ymateb yn sylweddol. O fewn oriau, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cymru y byddai ymchwiliad llawn i'r digwyddiad.

Fe ddaeth negeseuon cydymdeimlad o bob rhan o'r byd. Sefydlodd yr Aelod Seneddol lleol Peter Hain elusen gafodd ei noddi gan Dywysog Cymru. Yn y pen draw cafodd dros 拢1 miliwn ei gasglu i'r gronfa.

Dywedodd Mr Hain fod y drychineb "yn gyllell drwy galon y gymuned" a'i bod "wedi cyffwrdd bywydau miloedd o bobl ym Mhrydain ac ar draws y byd."

Dechreuodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r heddlu gasglu tystiolaeth. Cafodd Mr Fyfield a chwmni MNS Mining eu cyhuddo o ddynladdiad. Fe wadodd Mr Fyfield a'r cwmni y cyhuddiadau.

Yn Llys y Goron Abertawe honnodd yr erlyniad fod y rheolwr a'r cwmni yn ddi-hid o reolau diogelwch.

Yn ol yr amddiffyniad, roedd y dystiolaeth yn dangos ei fod yn ddyn gofalus a chydwybodol, a doedd hi dal ddim yn glir lle oedd tarddiad y 650,000 galwyn o dd诺r.

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hen weithfeydd glofa'r Gleision yng Nghwm Tawe

Yn ddieuog

Fe barodd yr achos am bron i dri mis yn Llys y Goron Abertawe, ond ar 么l ychydig dros awr a chwarter o drafod, penderfynodd y rheithgor nad oedd Mr Fyfield na'r perchnogion yn gyfrifol am y marwolaethau.

Pan ddaeth y rheithfarn tua 14:45 ddydd Iau, fe gafwyd Mr Fyfield a MNS Mining yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.

Dechreuodd Malcolm Fyfield, sy'n diodde' o anhwylder 么l-drawma ers y digwyddiad ym Medi 2011, lefain wrth i'r rheithfarn gael ei darllen yn y llys.

Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Wyn Williams bod yr achos wedi bod yn un anodd i bawb.

Diolchodd i aelodau'r rheithgor am roi sylw manwl i'r holl dystiolaeth yn fanwl dros gyfnod o dri mis.

'Cefnogaeth aruthrol'

Ar ddiwedd yr achos fe ddaeth datganiad ar ran teuluoedd y pedwar fu farw. Dywedodd:

"Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd i ni gyd - fel y bu'r ddwy flynedd a hanner ddiwethaf ers i ni golli ein hanwyliaid ym Mhwll y Gleision.

"Rydym yn gweld eisiau Garry, Philip, Charles a David yn fawr iawn. Ni aeth diwrnod heibio heb i ni ddyheu am iddyn nhw fod gyda ni o hyd.

"Bydd digwyddiadau'r 15fed o Fedi 2011 yn aros gyda ni am weddill ein hoes.

"Hoffem ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith achub, gan gynnwys y T卯m Achub Pyllau Glo a'r holl wirfoddolwyr.

"Rydym wedi derbyn cefnogaeth aruthrol gan y gymuned a swyddogion cyswllt yr heddlu. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu holl garedigrwydd a'u cymorth ar hyd yr amser.

"Gan fod yr achos llys wedi dod i ben erbyn hyn, ac rydym wedi clywed am y tro cyntaf yr hyn ddigwyddodd yn y pwll, gofynnwn am gael llonydd i symud ymlaen 芒'n bywydau - er na fydd y dynion a gollon ni fyth yn mynd yn angof."

'Cydymdeimlad dwysaf'

Mewn datganiad dywedodd cyfarwyddwyr MNS Mining eu bod yn "dymuno mynegi eu cydymdeimlad dwysaf i deuluoedd a chyfeillion y dynion gollodd eu bywydau yn y Gleision.

"Rydym yn aruthrol o falch bod y rheithgor wedi penderfynu nad oedd Malcolm Fyfield nac MNS Mining wedi cyflawni unrhyw drosedd ac nad ydyn nhw mewn unrhyw ffordd yn gyfrifol am y marwolaethau trasig.

"Mae wedi bod yn daith hir a dirdynnol at y pwynt hwn a hoffen ni ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu a'n cefnogi drwy'r amseroedd anodd hyn."