'Rhaid i bobl gefnogi eu cynghorau'
- Cyhoeddwyd
Mae corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol Cymru wedi galw ar y cyhoedd i gefnogi eu cynghorau.
Dywedodd dirprwy arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fod angen i bobl dderbyn "y bydd rhaid i wasanaethau newid".
Brynhawn Mercher cyhoeddodd y llywodraeth fanylion toriadau cynghorau sy'n amrywio o 1.2% i 4.6%.
Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths wedi dweud ei bod hi wedi rhybuddio cynghorau am yr hyn fyddai'n digwydd.
'Setliad gwaethaf'
Dywedodd Aaron Shotton o CLlLC: "Hwn yw'r setliad gwaethaf ar gyfer llywodraeth leol ers datganoli ... a bydd cynghorau lleol ond yn medru cwrdd 芒'r her os ydyn nhw'n rhydd i wneud penderfyniadau lleol er budd eu cymunedau.
"Beth bynnag mae cynghorau yn ei wneud, bydd y toriadau hyn yn golygu y bydd gwasanaethau cyhoeddus y mae llywodraeth leol yn eu darparu yn edrych yn wahanol iawn o fewn y tair i bum mlynedd nesaf.
"Bydd rhaid i gymunedau ledled Cymru addasu eu disgwyliadau yn sylweddol ...
"Yn ogystal bydd raid i gynghorau lleol a chymunedau weithio gyda'i gilydd wrth i benderfyniadau anodd iawn gael eu gwneud am ba wasanaethau ddylai gael eu blaenoriaethu."
Cyn y cyhoeddiad roedd CLlLC wedi rhybuddio nad oedd y cynghorau "yn barod" am y toriadau.
Swyddi
Mae ysgrifennydd cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur yng Nghymru wedi dweud eu bod yn gobeithio na fydd pobl yn colli eu swyddi o ganlyniad i'r toriadau.
"Rydym angen cynllunio ... er mwyn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar gyfer y dyfodol," meddai Martin Mansfield.
"Mae hynny'n golygu bod angen atal rhag ymateb yn adweithiol drwy breifateiddio neu dorri cyflogau a swyddi."