成人快手

Galw ar feicwyr i osgoi'r Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Gwaharddiad beicioFfynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gofyn i bobl beidio 芒 mynd 芒'u beiciau ar lwybrau'r Wyddfa rhwng 10am a 5pm tan ddiwedd mis Medi.

Mae cytundeb gwirfoddol ers tro sy'n anelu at geisio osgoi damweiniau ar y mynydd mewn cyfnodau prysur.

Cafwyd y cytundeb rhwng awdurdod y parc, CTC Cymru, Undeb Beicio Cymru a'r Sefydliad Beicio Mynydd Rhyngwladol, ac fe ddaeth yn dilyn pryderon am ddamweiniau posib' yn yr haf.

Cyngor Cymuned Llanberis fynegodd y pryderon i Gyngor Gwynedd ac maen nhw ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn awyddus i feicwyr mynydd barhau i anrhydeddu'r cytundeb er lles a diogelwch y beicwyr eu hunain yn ogystal 芒'r cerddwyr sy'n defnyddio'r llwybrau.

Y bwriad yw osgoi'r angen i gyflwyno Rhybudd Rheoli Traffig ar lwybrau'r Wyddfa.

Mae'r cytundeb yn weithredol o Fai 1 tan fis Medi 30 eleni.

'Niwsans'

Dywedodd Mair Huws, Pennaeth Mynediad a Wardeniaid awdurdod y parc: "Mae beicio ar yr Wyddfa, pan fo cannoedd o gerddwyr ar y llwybrau, yn gallu bod yn niwsans, yn rhwystredig ac yn anystyriol o eraill.

"Rydym yn awyddus i reoli'r sefyllfa ac felly'n gofyn am gydweithrediad y beicwyr i barchu'r oriau a gynhwysir yn y cytundeb.

"Rydym hefyd yn argymell llwybrau eraill sy'n addas ar gyfer beicio mynydd yn y Parc Cenedlaethol gan fod mwy o gyfleoedd i wneud hynny yn Eryri y dyddiau hyn."