成人快手

Cymru'n methu manteisio'n llawn ar gynllun ynni

  • Cyhoeddwyd
inswleiddioFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwriad Y Fargen Werdd yw gwella effeithiolrwydd ynni mewn tai ar draws y DU

Mae cwmni o Dorfaen, sy'n gosod ac yn profi mesurau arbed ynni yn rhybuddio fod perchnogion tai a busnesau yng Nghymru yn wynebu anfantais wrth i gynllun arbed ynni gan Lywodraeth Prydain ddod i rym.

Yn 么l cwmni Egnida, mae rheolau cynlluniau awdurdodau lleol Cymru yn fwy caeth na rhai Lloegr ac fe fydd yn ei gwneud hi'n anoddach manteisio'n llawn ar Y Fargen Werdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo ymchwilio i'r mater.

Mae'r cynllun yn cynnwys cymhorthdal ar gyfer pethau fel insiwleiddio, boeleri newydd a phaneli solar.

O dan system bydd cymorthdaliadau'n cael eu rhoi i wneud gwelliannau i'r tai gyda'r gwaith yn cael ei dalu amdano ei hun drwy'r arbedion ddaw o'r biliau ynni.

Cafodd y cynllun ei lansio ym mis Hydref 2012.

Y bwriad yw annog perchnogion tai i gael asesiad o'u tai neu fusnesau i weld a oes modd gwneud arbedion ar eu biliau ynni.

Y syniad wedyn yw gosod dyfeisiadau i arbed arian, fel boeleri neu insiwleiddio mewnol neu allanol, a fyddai'n gwneud y cartref neu'r busnes yn gynhesach ac yn rhatach i'w wresogi, yn enwedig mewn tywydd oer.

'Anfantais'

Y mwya' o waith gaiff ei wneud y mwya' o arian fydd modd ei gael, gyda rhai cynlluniau werth dros 拢1,000.

"Mewn diwydiannau gwyrdd a'r farchnad amgylcheddol, mae'n ymwneud 芒 bod y cyntaf," eglurodd Andrew Padmore, Prif Weithredwr Egnida.

"Mae'n anfantais gwirioneddol bod yn ail.

"Fe fyddai'n ddefnyddiol i bolis茂au uno er mwyn bod yn fwy rhagweithiol yng Nghymru."

Mae 'na 45 o wahanol welliannau ar gael, wedi eu talu gan fenthyciadau a chynlluniau arian-yn-么l.

Wrth gyhoeddi'r cynllun gan y llywodraeth glymblaid, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, y bydd modd helpu miloedd o dai i gadw'n gynnes am lai o arian.

"Fe fydd y bobl yn elwa o welliannau arbed ynni a bydd y biliau'n gostwng hefyd.

"Fe fydd Y Fargen Werdd hefyd yn cefnogi miloedd o swyddi."

Ond er bod Andrew Pendleton, o Gyfeilion y Ddaear Cymru a Lloegr, yn croesawu'r syniad mae'n dweud bod 'na fethiannau allweddol sy'n tanseilio'r cynllun.

"Mae'r cyfraddau llog ar y benthyciadau yn sicr o danseilio ap锚l y cynllun i berchnogion tai sy'n wynebu problemau ariannol.

"Mae angen gweithredu mwy uniongyrchol i helpu'r rhai sydd wir yn cael trafferthion i wresogi eu cartrefi."

Cynlluniau

Dywedodd Tony Wheeler o Aberpennar bod ei deulu wedi gweld gwahaniaeth enfawr mewn costau gwresogi ers i ddeunydd insiwleiddio gael ei osod ar flaen a chefn y t欧 teras.

"Mae'n wych. Mae'n braf gwybod ei fod yn gwneud yr hyn ddylai.

"Mae'r t欧 yn llawer cynhesach.

"Yn un peth mae 'r biliau wedi haneru sy'n wych."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod modd gosod y rhan fwyaf o fesurau i wneud arbedion, fel insiwleiddio'r to heb ganiat芒d cynllunio.

"Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o newidiadau er mwyn caniat谩u i berchnogion osod technoleg ynni adnewyddol fel paneli solar, tyrbinau gwynt ac ati yn eu cartrefi heb fynd drwy'r broses o wneud cais cynllunio.

"Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar newidiadau eraill a fyddai'n ymestyn be all preswylwyr ei wneud heb gais cynllunio a fydd yn cael eu cyflwyno'n ddiweddarach eleni."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 成人快手 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol