成人快手

Gareth Thomas yn ymddeol o chwarae rygbi

  • Cyhoeddwyd
Gareth ThomasFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ymunodd Thomas gyda'r Crusaders ddwy flynedd yn 么l

Mae'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Gareth Thomas wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o'r g锚m a hynny yn syth.

Daeth y cyhoeddiad gan Emanuele Palladino o'i gwmni rheoli, Distinct, toc cyn amser cinio ddydd Mawrth.

Roedd y chwaraewr 37 oed wedi ei gynnwys yng ngharfan 13 Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Pedair Gwlad yn erbyn Lloegr dros y penwythnos.

"Gallwn gadarnhau bod Gareth Thomas yn ymddeol o chwarae rygbi clwb a rhyngwladol yn syth," meddai'r datganiad.

"Mae hyn yn ddiwedd gyrfa arbennig iawn...

"Gobaith Gareth yw bod ei lwyddiannau ar, ac oddi ar y cae wedi creu argraff ac yn rhan o hanes."

Fe wnaeth y chwaraewr adael rygbi'r undeb i ymuno gyda chlwb rygbi'r gynghrair Crusaders ddwy flynedd yn 么l.

Amser i ymddeol

Wedi i'r clwb gyhoeddi na fydden nhw'n chwarae yn y Super League y tymor nesaf roedd disgwyl i Thomas symud i Wigan.

Fe wnaeth Thomas gynrychioli'r Llewod yn ogystal.

Yn 么l Thomas, roedd o wedi trafod y penderfyniad gyda'i deulu a chyfeillion agos.

"Dwi wedi gwrando a thrafod y manylion gyda nifer.....Mae fy meddwl yn dweud wrthyf ei bod yn amser i ymddeol.

"Os na allwch chi roi cant y cant....allwch chi ddim gwneud cyfiawnder 芒'r gamp.

"Mae'n ddiwrnod trist iawn ond dwi'n gwybod bod yr amser wedi dod i mi orffen chwarae.

"Wna i fyth golli fy angerdd tuag at y gamp."

Dywedodd nad yw'n gwybod be ddaw nesa ond ei fod yn barod am her nad yw'n cynnwys rygbi.

'Rhesymau personol'

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig gyda fi yn fy ngyrfa.

"Mae gen i atgofion a ffrindiau da."

Yn 么l adroddiadau ddydd Llun fe wnaeth Thomas dynnu allan o'r garfan yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn "am resymau personol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gorffennodd chwarae rygbi'r undeb gyda Gleision Caerdydd

"Mae gan Gareth broblemau teuluol ar hyn o bryd," meddai hyfforddwr t卯m 13 Cymru, Iestyn Harris.

"Fe wnes i gwrdd 芒 Gareth y diwrnod o'r blaen ac mae disgwyl cyhoeddiad pellach yn y dyddiau nesaf."

Dydd Mawrth dywedodd Harris ei fod wedi gweithio gyda Thomas am bron i ddwy flynedd a bod y modd y symudodd o rygbi'r undeb i'r gynghrair yn destament i'w broffesiynoldeb.

"Dwi'n si诺r y bydd yn cael llwyddiant arbennig ym mhopeth y bydd yn ei wneud."

Fe enillodd Thomas ei gap cynta' i Gymru yn erbyn Japan yn 1995 a fo oedd yn gapten pan gipiodd Cymru eu Camp Lawn cynta' mewn 27 mlynedd yn 2005.

Aeth y canolwr / asgellwr ymlaen i arwain y Llewod yn Seland Newydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ar 么l i'r capten gwreiddiol, Brian O'Driscoll, gael anaf yn y prawf cynta'.

Mae'r chwaraewr, sy'n cael ei adnabod fel 'Alfie' hefyd wedi chwarae i Ben-y-bont, Caerdydd, y Rhyfelwyr Celtaidd, ac wedi treulio tair blynedd yn Ffrainc gyda Toulouse - ble enillodd o Gwpan Heineken yn 2005 - cyn dychwelyd i Gymru i chwarae i Gleision Caerdydd.

Cam anarferol a dewr

Fe symudodd Thomas o Rygbi'r Undeb i'r Gynghrair ym mis Mawrth 2010, ar 么l ennill 100 o gapiau i Gymru.

Ymunodd 芒'r Crusaders, ac enillodd ei gap cynta' gyda Rygbi Cynghrair Cymru'r mis Hydref canlynol, gan sgorio yn ystod y golled 13-6 yn erbyn Yr Eidal.

Roedd Thomas yn gapten pan gurodd Cymru Ffrainc yng Nghwpan Ewrop, gan sicrhau lle i Gymru ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad yn erbyn Lloegr, Awstralia a Seland Newydd.

Oddi ar y cae, datgelodd Thomas ym mis Rhagfyr 2009 ei fod yn hoyw - cam anarferol a dewr i bersonoliaeth chwaraeon.

Roedd bywyd Thomas wedi tynnu sylw'r seren Hollywood, Mickey Rourke, sy'n awyddus i actio rhan y chwaraewr rygbi mewn ffilm.