成人快手

Coron a Chadair 2012

Coron Eisteddfod yr Urdd 2012

Cafodd Coron a Chadair Eisteddfod yr Urdd 2012 eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl yn Eryri mewn digwyddiad arbennig yng Nghaernarfon.

Mae'r Goron eleni wedi ei gwneud gan grefftwr profiadol sydd wedi llunio sawl Coron, John Price o Fachynlleth.

Ond dyma'r Goron gyntaf iddo ei chreu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Mae wedi ei ddylanwadu gan dirwedd fynyddig Eryri a'r traddodiad glan m么r a'r ddwy elfen yma yw thema cynllun y goron.

"Mae hi'n wefr cael cynllunio Coron i brifwyl ieuenctid yr Urdd, a dwi'n mawr obeithio y bydd enillydd i fynd o dan y goron ymhen ychydig wythnosau yng Nglynllifon!" meddai John Price sy'n dweud mai hobi yw'r gwaith er ei fod wedi creu ymhell dros 100 o goronau dros y blynyddoedd i amryw o Eisteddfodau.

Ewch i Ewch i

Bydd Cadair Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 yn "gofeb deilwng i w欧r y pethe a'r pridd".

Bethan Jones Parry gydag Aled Si么n o'r Urdd a'r crefftwr Llewelyn Jones gyda chadair yr eisteddfod
Mae'r teulu yn falch fod llechen o Ddyffryn Nantlle
yn rhan o'r gadair

Mae'r Gadair wedi ei gwneud o goeden dderw lleol gan Llewelyn Wyn Jones o Rosfawr ger Pwllheli.

Cofio bywyd tad a mab yw bwriad teulu Fron Olau, Rhoslan ger Cricieth sy'n cyflwyno'r Gadair yn ogystal 芒 choff谩u cariad y teulu cyfan tuag at ddiwylliant Cymru a'i hieuenctid.

Fe fydd diwrnod y seremoni, dydd Iau Mehefin 7, yn un chwerw felys i deulu Meirion a Ceredig Parry, gwraig a mam y ddau, Edith Parry, ei merch, Bethan Jones Parry ac i Eleri, gweddw Ceredig, a'i fab, Gwynant Rhys. "Mi fyddai'r ddau wrth eu boddau eu bod nhw'n cael eu coff谩u 芒'r Eisteddfod yn Eryri," eglura Bethan Jones Parry.

"Dyn y pethe oedd Dad a dyn y pridd oedd Ceredig, yn ffermio'r fferm deuluol."

Mae yna ddarn o lechen o Ddyffryn Nantlle yn y gadair ac roedd hynny yn bwysig i'r teulu gan fod llinach y teulu o'r ddwy ochr yn deillio o Ddyffryn Nantlle.

O dan y llechen sydd 芒'r llinell wyrddlas nodweddiadol yn rhedeg drwyddi, mae cerfiad cywrain o lwybr a choed, yn adlewyrchu ysblander y L么n Goed, sydd dafliad carreg o gartref y teulu sy'n cyflwyno'r Gadair.

Ewch i

Caiff y Goron ei rhoi am greu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema 'Egin.' Beirniaid y gystadleuaeth eleni fydd Catrin Dafydd a Meg Elis. Cynhelir Defod y Coroni ddydd Gwener 8 Mehefin am 2.30pm.

Mae'r Gadair yn cael ei rhoi am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd ar y testun 'Cylchoedd'. Y beirniaid yw Rhys Iorwerth ac Ifan Prys. Cynhelir Defod y Cadeirio ddydd Iau 7 Mehefin am 2.30pm.


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Plant

Bobinogi

Hwyl a sbri

Bobinogi, Bob y Bildar, Fimbles a chymeriadau difyr eraill

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.